Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n ddiolchgar i’r holl unigolion a’r holl sefydliadau a gymerodd yr amser i ymateb i’n hymgynghoriad ar gynigion i ddiwygio gofynion cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg. Rwy’n falch o gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion hynny heddiw.

Mae sicrhau bod lles a hawliau dysgwyr yn flaenllaw mewn addysg yn flaenoriaeth, ac o ganlyniad  bydd y gwaith pwysig hwn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed yng Nghymru. Ein nod yw cryfhau'r mesurau diogelu sydd ar waith i amddiffyn dysgwyr a darparu llwybr i unigolion neu sefydliadau godi pryderon a chael ymchwiliad annibynnol i'r pryderon hynny. 

Rydym hefyd yn cymryd camau i gefnogi lles yr holl staff sy'n gweithio yn ein hysgolion a'n colegau fel bod pawb yn ein cymuned addysg yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae'r cynigion yn sicrhau cydraddoldeb i'r rhai sy'n gweithio mewn rolau tebyg ac yn sicrhau lefel o broffesiynoldeb ar draws y gymuned addysg. Maent hefyd yn gosod ymddygiadau disgwyliedig ac yn darparu mynediad i staff at ystod o ddulliau hyfforddi a datblygu a ddarperir drwy Gyngor y Gweithlu Addysg.

Mae’r cynigion yn cefnogi gwaith sy'n mynd rhagddo eisoes i adolygu a diweddaru'r rheoliadau cyfredol ar gyfer ysgolion annibynnol. Maent hefyd yn atgyfnerthu'r gofynion cofrestru ar gyfer gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid a’r rhai sy'n gweithio yn y sector ôl-16 drwy ei gwneud yn ofynnol i gategorïau ychwanegol o’r grwpiau hynny gofrestru â’r Cyngor. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 24 Mai, gyda dros 300 o ymatebion yn dod i law. Roedd cefnogaeth eang i gyflwyno deddfwriaeth newydd fyddai’n mynd i’r afael ag anghysondebau yn y gofynion presennol. Bydd ein cynigion felly yn symud yn eu blaenau heb newid llawer. Eithriad i hyn yw lle mynegwyd pryderon am y gofyniad i weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cyflogedig heb gymhwyso gofrestru.

Mae diffiniad clir o waith ieuenctid yn allweddol i ddarparu eglurder o ran pwy fyddai angen cofrestru yn y categori hwn ac mae angen ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid er mwyn datblygu’r diffiniad hwn. Mae’n bwysig i hyn gael ei wneud yn iawn. Ni fyddwn, felly, yn bwrw ymlaen i gyflwyno gofynion cofrestru ar gyfer gweithwyr ieuenctid cyflogedig heb gymhwyso a gweithwyr cymorth ieuenctid heb gymhwyso ar hyn o bryd. Bydd y gwaith pellach hwn yn cael ei wneud wrth i ni gymryd camau i gyflawni argymhelliad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro i gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Yn ogystal, ni fydd darparwyr dysgu seiliedig ar waith a ariennir yn gyhoeddus ond na chânt eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglenni prentisiaeth yn cael eu cynnwys fel grŵp cofrestru newydd. Byddai diffinio ystod mor amrywiol o ymarferwyr a gofyn iddynt gofrestru yn faich gweinyddol anymarferol. Ar ben hynny, gallai llawer o bobl yn y grŵp hwn hefyd gael eu cynnwys trwy gofrestru mewn grwpiau eraill.

Byddwn yn ymgysylltu ymhellach â’n rhanddeiliaid er mwyn archwilio’r materion a godwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad, a bydd ymgynghoriad pellach ar y ddeddfwriaeth ddrafft yn cael ei gyhoeddi yn nhymor yr hydref.