Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n dda gen i gyhoeddi fy mwriad i agor ail gylch Cynllun Ardrethi Busnes Ardaloedd Menter Cymru yn 2015/16.
Gan adeiladu ar lwyddiant y Cynllun hyd yma, bydd y cylch newydd yn sicrhau bod busnesau sydd eisoes wedi’u lleoli yn yr Ardaloedd Menter yn gallu parhau i fanteisio ar y cymorth pwysig hwn, a bydd hefyd yn gymorth i’r busnesau sy’n dymuno symud i mewn i’r Ardaloedd Menter.

Ers 2012, mae Cynllun Ardrethi Busnes yr Ardaloedd Menter wedi darparu cymorth ardrethi busnes ar draws pob Ardal Fenter yng Nghymru. Mae’r Cynllun wedi hybu twf yr economi ac wedi creu swyddi, gan gefnogi 136 o fusnesau gyda thros £8 miliwn o gyllid. Bydd y cylch newydd hwn yn sicrhau bod ein Hardaloedd Menter ni’n cynnig pecyn cystadleuol o gymorth.

Rwyf eisoes wedi cyhoeddi nifer o fesurau eraill ym maes ardrethi busnes  a fydd yn hybu swyddi a thwf, gan gynnwys estyn y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach  am flwyddyn arall, estyn ac ehangu Cynllun Rhyddhad Manwerthu Cymru a chapio’r lluosydd ardrethi busnes ar 2% yn 2015-16. Gyda'i gilydd, mae’r mesurau hyn yn lleihau biliau ardrethi busnes i drethdalwyr ar draws Cymru.

Bydd ragor o fanylion maes o law am y broses ymgeisio ar gael ar-lein trwy ymweld â gwefan yr Ardaloedd Menter ardaloeddmenter.cymru.gov.uk