Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwyf wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd â phartneriaid yn y diwydiant ac awdurdodau lleol mewn perthynas ag estyniad arall i Gynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES). Ers y pandemig mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £150 miliwn drwy BES i sicrhau bod gwasanaethau bysiau hanfodol yn parhau i redeg.

Gallwn gadarnhau y byddwn yn ymestyn BES am gyfnod arall o dair wythnos hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd hon. Bydd y cynllun nawr yn para hyd at 24 Gorffennaf 2023.  Bydd hyn yn golygu y bydd cludiant i’r ysgol yn parhau fel arfer.  Bydd hefyd yn rhoi sefydlogrwydd pellach i'r diwydiant wrth i ni weithio ar symud i ffwrdd o gyllido brys tuag at gynllunio rhwydweithiau bysiau sy'n gweddu'n well i'r patrymau teithio newydd rydym wedi'u gweld ers diwedd y pandemig.

Yn ogystal, rwyf wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru, Awdurdodau Lleol a’r Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol sefydlu timau cynllunio rhwydweithiau rhanbarthol, i ddeall effaith diwedd BES ac i ddatrys materion o ran y rhwydwaith sy'n debygol o godi yn sgil y newid i'r drefn ariannu.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y rhwydwaith mor effeithlon â phosibl ac y gall cymaint â phosibl ei ddefnyddio.

Byddwn yn parhau i gwrdd yn rheolaidd a chydweithio'n agos â’n gilydd a chyda phartneriaid eraill i adeiladu rhwydwaith bysiau cryf a chynaliadwy i Gymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r Awdurdodau Lleol a chwmnïau bysiau i fanteisio i’r eithaf ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol, ac yn rhoi diweddariad maes o law. Bydd angen i’r gwaith hwn weithredu fel pont i’n cynlluniau masnachfreinio.

Er mwyn helpu gyda’r gwaith o gyflawni cynllun uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i drawsnewid gwasanaethau bysiau yng Nghymru, sef Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn, rwyf wedi gofyn i Jonathan Bray, sydd newydd orffen yn ei swydd fel Cadeirydd y Grŵp Trafnidiaeth Drefol, i arwain panel o arbenigwyr sy’n darparu cyngor ar roi’r cynllun hwnnw ar waith. Bydd aelodau’r panel yn cael eu cyhoeddi maes o law.