Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o gyhoeddi fy mod yn ymestyn y trefniadau presennol ar gyfer Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru ymhellach ac y byddaf yn cadw’r pecyn presennol ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr presennol ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/2025. Fel rhan o ymrwymiad ein Rhaglen Lywodraethu i gadw Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, rydym yn darparu pecyn o gymorth ariannol i fyfyrwyr gofal iechyd sy’n ymrwymo i weithio yn y sector gofal iechyd yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl cymhwyso.  Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnwys ffioedd dysgu ac elfen tuag at gostau byw.

Rydym yn cydnabod bod angen inni ystyried a yw’r pecyn ariannol presennol yn parhau i fod yn ddeniadol felly yn ystod cyfnod yr estyniad hwn, byddwn yn cynnal ymarfer ymgynghori. Bydd hyn yn ein helpu i sefydlu’r ffordd orau a mwyaf priodol o barhau i gefnogi’r rhai sy’n dewis astudio rhaglenni sy’n ymwneud â gofal iechyd yng Nghymru. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod system Cymru yn dal i gynnig manteision cystal â gwledydd eraill a bod Cymru’n parhau i fod yn gyrchfan a ffefrir i fyfyrwyr.

Yn y cyfamser, rwyf hefyd wedi cytuno i gael gwared ar y Gyfradd Is o Fenthyciad Cynhaliaeth ar gyfer holl Fyfyrwyr Bwrsariaeth y GIG o flwyddyn academaidd 2024/25. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i newid deddfwriaeth cymorth myfyrwyr. Bydd hyn yn golygu y bydd holl fyfyrwyr Bwrsariaeth y GIG gan gynnwys Myfyrwyr Meddygaeth a Deintyddiaeth, unwaith y byddant wedi’u cymeradwyo, yn ystod eu blynyddoedd Bwrsariaeth yn gallu cael gafael ar y swm llawn o fenthyciad cynhaliaeth, waeth beth yw unrhyw hawl bwrsari neu grant.

Trwy gyfuniad o fuddsoddiad parhaus a chynyddol yn narpariaeth addysg a hyfforddiant gweithwyr iechyd proffesiynol, a’r ddarpariaeth barhaus o gymorth ariannol i annog unigolion i ystyried gofal iechyd yng Nghymru fel gyrfa werth chweil, mae’r Llywodraeth hon yn dangos ei hymrwymiad clir i sicrhau cynaliadwyedd gweithlu’r GIG yn y dyfodol.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Pe byddai’r aelodau’n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.