Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 1 Ebrill, dechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) gasglu a rheoli dwy dreth newydd yng Nghymru - y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi, a wnaeth ddisodli’r dreth dir ar y dreth stamp a'r dreth dirlenwi, yn y drefn honno.

Mae’r ddwy dreth newydd yma - y trethi cyntaf i gael eu cyflwyno yng Nghymru ers bron i 800 mlynedd - yn cynrychioli carreg filltir arwyddocaol yn nhaith ddatganoli Cymru.

Mae ACC yn gyfrifol am gasglu refeniw treth ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd y refeniw y bydd y ddwy dreth yma yn ei godi yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion, y GIG a gofal cymdeithasol. Amcangyfrifir y bydd y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi yn codi dros £1bn yn y pedair blynedd gyntaf.

Heddiw, mae ACC yn cyhoeddi ei Gynllun Corfforaethol cyntaf. Mae hwn yn nodi sut bydd yn cyflawni’r tair blaenoriaeth a osodais yn ei lythyr cylch gwaith cyntaf:

  • Galluogi pobl i dalu'r swm cywir o dreth ar yr amser cywir, gan gynnal safonau uchel o ran gwasanaeth a chefnogaeth i gwsmeriaid;
     
  • Rheoli’r system dreth ddatganoledig, meithrin perthnasoedd â chyrff eraill er mwyn helpu i atal a mynd i’r afael ag efadu trethi ac osgoi trethi
     
  • Arwain gwelliannau i weinyddu trethiant datganoledig yng Nghymru.

Mae Cynllun Corfforaethol ACC yn disgrifio’r egwyddorion sy'n sail i’w berthynas â threthdalwyr a rhanddeiliaid pwysig eraill er mwyn datblygu ffordd o weinyddu treth yng Nghymru.

Bydd dogfennau gweithredol eraill, gan gynnwys y cytundeb fframwaith rhwng ACC a Llywodraeth Cymru hefyd yn cael eu cyhoeddi.

Mae’n bwysig bod ACC a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod polisi treth y dyfodol yn seiliedig ar y data a’r dadansoddiad gorau posibl. Caiff egwyddorion y bartneriaeth a’r polisïau llywodraethu sylfaenol, a fydd yn galluogi hyn, eu hadlewyrchu yn y ddogfen fframwaith.

Bydd ACC yn cyhoeddi ystadegau rheolaidd ynghylch y trethi mae’n eu gweinyddu yng Nghymru. Mae’r amserlen cyhoeddi ar gael ar wefan ACC yn: https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil/i-ddod?field_stats_series_external_organisation%5B543%5D=543

Mae Cynllun Corfforaethol ACC ar gael yn: https://llyw.cymru/cynllun-corfforaethol-awdurdod-cyllid-cymru-2018-i-2019