Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi bod yn casglu a rheoli'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi ers dros bedair blynedd.

Ers mynd yn fyw ym mis Ebrill 2018, mae ACC wedi casglu dros £1biliwn ar ran Llywodraeth Cymru; mae hyn wedi cyfrannu'n uniongyrchol at ariannu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel yng Nghymru – ein hysgolion, y GIG a Gofal Cymdeithasol.

Yr wyf yn falch bod heddiw'n ddiwrnod cyhoeddi Cynllun Corfforaethol ACC ar gyfer 2022 i 2025. Mae’r cynllun hwn yn nodi diben ACC i:

  • Lunio a darparu gwasanaethau cyllid
  • Arwain y gwell defnydd o ddata trethdalwyr Cymru ar gyfer Cymru

Mae'r cynllun yn cynnwys pedwar amcan strategol a chyfres o fesurau perfformiad:

  • Hawdd - Byddwn yn ei gwneud hi’n hawdd talu'r swm cywir o dreth
  • Teg - Byddwn yn deg ac yn gyson yn y ffordd rydym yn casglu ac yn rheoli treth, gan gymryd camau cymesur pan nad yw pobl yn cyflawni eu hymrwymiadau
  • Medrus - Byddwn yn datblygu ac yn manteisio i'r eithaf ar ein gallu unigol a chyfunol
  • Effeithlon - Byddwn yn cyflawni mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn gymesur, gan ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym yn y ffordd orau

Darllenwch Gynllun Corfforaethol ACC ar gyfer 2022 i 2025.

Mae ACC yn gyhoeddwr Ystadegau Gwladol sydd ar gael yn:

https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil