Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddais Gynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Roedd y  cynllun yn helpu i gyflawni ein huchelgais i sicrhau bod Cymru yn wlad lle’r ydym yn gwrando ar blant, a lle maent yn cael mynediad at gymorth o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y plentyn, er mwyn sicrhau bod eu hawl i gael eu diogelu rhag niwed yn cael ei wireddu’n llawn. 

Heddiw, cyhoeddir adroddiad sy’n disgrifio’r hyn a gyflawnwyd o dan y cynllun, gan nodi’r meysydd lle mae angen gweithredu pellach.  Mae Comisiynydd Plant Cymru a’r grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol wedi craffu mewn modd adeiladol ar sut mae’r cynllun wedi cael ei weithredu ers 2019, ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu gwaith.

Hoffwn gydnabod ymdrechion ein Byrddau Diogelu rhanbarthol, a’r sefydliadau sydd wedi cydweithio â nhw, i ddatblygu dysgu ac adnoddau newydd ar gyfer cyflawni’r camau gweithredu y mae angen eu cymryd o dan y Cynllun. Mae’r sefydliadau’n cynnwys Stop it Now Wales, y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol, Barnardo’s,
y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC), a Phrifysgol Caerdydd.

Hefyd hoffwn ddiolch i’r holl oroeswyr, yn blant, pobl ifanc ac oedolion, sydd wedi rhoi o’u hamser i lywio’r gwaith hwn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid a phobl ifanc i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cenedlaethol newydd, a byddwn hefyd yn tynnu ar adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, lle bo hynny’n briodol. Mae ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu plant a phobl ifanc yng Nghymru rhag cael eu cam-drin yn rhywiol, a hefyd rhag mathau eraill o gam-drin, yn parhau’n flaenoriaeth i Weinidogion Cymru.