Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan bod Cymru yn wynebu Argyfwng Hinsawdd, gyda’r nod o sbarduno cymryd mwy o gamau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ymateb i her y newid yn yr hinsawdd. Mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi atgyfnerthu’r uchelgais sydd am weld sector cyhoeddus Cymru yn garbon sero-net erbyn 2030. Fel y sefydliad sector cyhoeddus mwyaf yng Nghymru, mae gan y GIG rôl bwysig i’w chwarae wrth fynd ati i gyrraedd y targed hwnnw, a byddwn yn disgwyl gweld targedau uchelgeisiol yn cael eu gosod.

Er gwybodaeth ichi, mae’r Cynllun Cyflawni Strategol ar gyfer Datgarboneiddio GIG Cymru 2021-30. Mae’n creu ffocws i waith GIG Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru wrth iddynt sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i alluogi GIG Cymru i leihau allyriadau.

Mae bron i 50 o fentrau clir, uchelgeisiol, ac ymarferol yn y Cynllun Cyflawni Strategol, sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth o ffynonellau allyriadau, yn hytrach nag ar ystad y GIG yn unig. Mae hyn yn gydnaws â’r cynllun nesaf, Cynllun Cyflawni Carbon Isel 2.

Bydd y mentrau yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer lleihau allyriadau, a’r camau a gymerir o ganlyniad iddo, yn gwella iechyd a llesiant cyffredinol yn sylweddol ar draws poblogaeth Cymru.