Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Ddydd Iau 31 Mawrth, byddwn yn pasio carreg filltir bwysig yn y llywodraeth glymblaid hon gyda chyhoeddi diweddariad chwarterol olaf Cynllun Cyflenwi Cymru’n Un.

Cytundeb Cymru’n Un oedd carreg sylfaen ein clymblaid hanesyddol, gan amlinellu agenda llywodraethu blaengar i Gymru. Diben y cynllun cyflenwi, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2008, oedd rhoi gwybodaeth syml am y ffordd y byddem yn cyflawni pob un o’n hymrwymiadau a pryd roedd disgwyl i bob un gael eu gweithredu. Mae’r diweddariad olaf hwn yn dangos ein cynnydd hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2010-11 ac mae’n dangos ein disgwyliadau ynghylch yr ychydig ymrwymiadau sydd heb eu gweithredu o hyd.

Roedd Cymru’n Un yn amlinellu dros 200 o ymrwymiadau penodol i lywodraeth Cymru’n Un eu cyflawni i wella ansawdd bywyd pobl yn holl gymunedau Cymru ac o bob rhan o gymdeithas, gan roi pwyslais arbennig ar anghenion y rheini sydd fwyaf agored i niwed a dan anfantais. Ein huchelgais oedd troi Cymru’n wlad hyderus, ffyniannus, iach sy’n deg â phawb. 

Mae nifer fechan o’n hymrwymiadau sydd heb eu cwblhau hyd yn hyn, sef rhai sy’n cymryd cryn amser i’w cwblhau fel canolfannau lles amlbwrpas; neu lle mae prosiectau arddangos yn cael eu datblygu fel cartrefi nyrsio dielw newydd.

Mae rhai ymrwymiadau y bydd angen parhau i weithredu arnynt, fel darpariaeth well ar gyfer cyflyrau iechyd hirdymor fel strôc a diabetes.

Ond hyd yn oed o gyfrif am yr holl faterion hyn, byddwn wedi cwblhau dros 90% o’n hymrwymiadau erbyn diwedd mis Ebrill, sef diwedd tymor y llywodraeth. Er y byddem fod wedi hoffi cyflawni pob ymrwymiad yn ystod tymor y Cynulliad hwn yn amlwg, rydym yn credu y gallwn fod yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni.

Mater i Lywodraeth nesaf y Cynulliad fydd cyflawni’r ymrwymiadau hynny. Ond mae’r cynlluniau y mae’r Llywodraeth hon wedi’u gosod wedi’u hamlinellu yn y diweddariad hwn; ac yn ein cyllideb ar gyfer y tair blynedd nesaf rydym wedi rhoi darpariaeth i’w cyflawni.

Roedd nifer o wahanol fathau o ymrwymiadau yn y Cynllun Cyflenwi. Roedd rhai yn eithaf penodol, er enghraifft:

  • Diwygio’r taliadau am barcio mewn ysbytai a mynediad i ffonau a theledu

  • Symud is-adrannau’r Llywodraeth i’r Gogledd-orllewin a’r Cymoedd

  • Gwella’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes

  • Lleihau’r amser teithio ar y rheilffyrdd rhwng y gogledd a’r de

  • Mwy o gymorth treth gyngor i bensiynwyr

  • Sefydlu undebau credyd ar gyfer pob rhan o Gymru

  • Sefydlu theatr genedlaethol Saesneg ei hiaith

  • Trefnu Gemau Ysgolion y DU llwyddiannus yn 2009

Roedd rhai yn fwy eang neu gymhleth, er enghraifft:

  • Ad-drefnu’r GIG yng Nghymru yn llwyr a rhoi terfyn ar y farchnad fewnol wastraffus

  • Mynd ati mewn ffordd gwbl newydd i wella gwasanaethau lleol yn barhaus

  • Lleihau’n sylweddol faint dosbarthiadau i blant 3 i 7 oed

  • Gweithio i ddileu tlodi plant, gan ddefnyddio pwerau deddfwriaethol y Cynulliad mewn ffordd arloesol

  • Cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg a’r Saesneg, a hawliau ieithyddol o ran darparu gwasanaethau, a sefydlu Comisiynydd Iaith

  • Cynyddu o 6,707 y ddarpariaeth tai fforddiadwy – gan ragori ar ein targed o 6500 o gartrefi flwyddyn gynnar, er gwaethaf effaith y dirwasgiad yn 2008.

Roedd pob un yn bwysig ac rydym yn credu y bydd pob un yn dwyn ffrwyth yn y dyfodol.

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi cadw’n haddewidion i bobl Cymru.