Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddais heddiw'r Cynllun Cyflenwi Cynhwysiant Ariannol a’r Cynllun Gweithredu Gwybodaeth a Chyngor.
Mae’r Cynllun Cyflenwi Cynhwysiant Ariannol yn amlinellu sut bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i geisio ymuno â sefydliadau partner – yng Nghymru ac ar lefel y DU – i weithio tuag at gymdeithas fwy cynhwysol yn ariannol yng Nghymru.
Mae Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016 yn disgrifio ein gweledigaeth lle bydd pawb sy’n byw yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau ariannol priodol a fforddiadwy, yn gallu cael cymorth gan wasanaethau gwybodaeth a chyngor sy’n destun prosesau sicrhau ansawdd ac yn meddu ar y gallu ariannol a’r cymhelliant i elwa ar y gwasanaethau ariannol sydd ar gael iddynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llawn i hyn.

Nid ar gyfer Llywodraeth Cymru yn unig y mae’r camau gweithredu hyn. Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau partner o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector sydd mewn sefyllfa dda i hyrwyddo cynhwysiant ariannol a gallu ariannol.
Mae’r Cynllun Cyflenwi’n tynnu sylw at y cyswllt rhwng cynhwysiant ariannol a blaenoriaethau allweddol eraill megis trechu tlodi ac annog cymryd camau tuag at gyflogaeth. Mae cysylltiadau cryf yn arbennig â’n Cynllun Gweithredu Gwybodaeth a Chyngor sy’n amlinellu sut y byddwn yn gweithio gyda’r Rhwydwaith Cyngor Cenedlaethol a phartneriaid i sefydlu rhwydwaith cynhwysfawr o ddarparwyr gwybodaeth a chyngor am sicrhau ansawdd. Mae hefyd yn cyd-fynd â’r camau gweithredu mewn strategaethau a gyhoeddwyd gan bartneriaid allweddol gan gynnwys Strategaeth Galluogrwydd Ariannol Cymru a Strategaeth Undebau Credyd Cymru.
Mae Grŵp Llywio Cynhwysiant Ariannol wedi’i sefydlu i ddwyn amryw gynrychiolwyr o’r sectorau perthnasol ynghyd i roi cyngor yn seiliedig ar dystiolaeth ac i fonitro cynnydd tuag at ein nod o sicrhau cynhwysiant ariannol.
Gallwch weld y dogfennau sy’n gysylltiedig â Chynllun Cyflenwi Cynhwysiant Ariannol drwy’r ddolen isod:
http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/debt/?lang=cy
Gallwch weld y dogfennau sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Gweithredu Gwybodaeth a Chyngor drwy’r ddolen isod:
http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/advice-services/information-and-advice-action-plan/?lang=cy