Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lansiodd Llywodraeth Cymru y cynllun taliad hunanynysu £500 y mis diwethaf i helpu pobl y gofynnwyd iddynt hunanynysu gan y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu.

Heddiw, rwy’n ehangu'r Cynllun Cymorth Hunanynysu i gynnwys rhieni a gofalwyr plant y gofynnwyd iddynt hunanynysu.

Rydym wedi ymrwymo i adolygu’r cynllun yn barhaus er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi cymorth i’r rheini y gofynnwyd iddynt hunanynysu ac sydd mewn perygl o galedi ariannol am nad ydynt yn gallu gweithio.

Ers lansio'r cynllun, mae awdurdodau lleol hefyd wedi adrodd am geisiadau gan rieni a gofalwyr y gofynnwyd i'w plant hunanynysu o ganlyniad i achosion o COVID-19 yn yr ysgol. Mae'n amlwg bod nifer sylweddol o bobl yn colli incwm am na allant weithio tra’n gofalu am eu plant pan nad ydynt yn gallu mynd i'r ysgol na'u lleoliad gofal plant arferol oherwydd Covid-19.  

Bydd ehangu’r cynllun yn galluogi rhieni a gofalwyr i wneud cais am y taliad o £500 i helpu i leddfu unrhyw galedi ariannol a'u cefnogi i ofalu am eu plant. Bydd hefyd yn cefnogi ymdrechion ehangach ysgolion a gwasanaethau eraill i reoli lledaeniad y feirws.

Rwy'n ymestyn y cynllun i rieni a gofalwyr o dan y meini prawf canlynol:

  • Mae'r plentyn yn mynychu ysgol neu ofal plant hyd at a chan gynnwys Blwyddyn 8 (neu hyd at 25 oed os oes gan y dysgwr anghenion lluosog a chymhleth);
  • Gofynnwyd i'r plentyn hunanynysu o ganlyniad i achos mewn ysgol, gofal plant neu leoliad addysg bellach ac mae wedi derbyn hysbysiad ffurfiol gan yr ysgol, gofal plant neu leoliad addysg bellach;
  • Mae’r rhieni neu'r gofalwyr yn bodloni meini prawf y prif gynllun h.y.
    • maent yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig;
    • nid ydynt yn gallu gweithio gartref ac maent yn colli incwm o ganlyniad;
    • mae’r ymgeisydd (neu ei bartner) yn cael un o’r budd-daliadau canlynol: Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn.
    • mae’r cais wedi’i dderbyn o dan elfen ddewisol y cynllun.

Bydd awdurdodau lleol yn gallu prosesu ceisiadau o ddydd Llun 14 Rhagfyr a bydd y taliadau'n cael eu hôl-ddyddio i 23 Hydref yn unol â'r prif gynllun. Byddaf yn parhau i adolygu'r cynllun er mwyn sicrhau bod y rhai mwyaf anghenus yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i hunanynysu a lleihau trosglwyddo.