Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn marwolaeth drasig Harvey Evans a Kyrees Sullivan nos Lun a'r anhrefn yn Nhrelái, cynhaliodd y Prif Weinidog a minnau gyfarfod yn Nhrelái heddiw, gyda chynrychiolwyr o'r gymuned leol, Action in Caerau and Ely, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, prif weithredwr ac arweinydd Cyngor Caerdydd, Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd a chynghorwyr lleol

Fe ddechreuon ni’r cyfarfod gydag ennyd i feddwl am Harvey a Kyrees. Mae dau deulu yn galaru am eu meibion ac mae pobl Trelái a Chaerau wedi cyd-ddioddef trawma. Mae ein meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau Harvey a Kyrees.

Nid archwilio digwyddiadau nos Lun oedd bwriad y cyfarfod, nac ymyrryd â chylch gwaith ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu; y bwriad yn hytrach oedd trafod sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i gefnogi’r gymuned.

Mae'r holl asiantaethau oedd o amgylch y bwrdd yn sylweddoli faint o ofid y mae’r bobl leol yn ei deimlo, ac maen nhw wedi ymrwymo i ddod ynghyd i noddi menter, dan arweiniad lleol, i greu cynllun cymunedol ar gyfer Trelái. Bydd hwn yn ymateb i anghenion tymor hir y trigolion ac yn canolbwyntio ar gamau gweithredu a chanlyniadau i bobl Trelái a Chaerau.

Pwysleisiodd y Prif Weinidog a minnau y bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth wirioneddol â phobl Trelái a Chaerau. Rydym am wrando, dysgu a defnyddio cryfderau a gwybodaeth leol trigolion ac ymateb i’w pryderon.

Gwnaethom hefyd gytuno i ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda’n gilydd i roi cymorth mwy uniongyrchol i blant a phobl ifanc yn ystod misoedd yr haf.

I gefnogi’r gwaith hwn, a fydd yn cael ei arwain gan y gymuned, cytunwyd y byddaf i’n cadeirio grŵp cyfeirio. Bydd y grŵp hwn yn dwyn ynghyd yr awdurdod lleol, ysgolion, gwasanaethau gofal sylfaenol, gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, yr heddlu, asiantaethau perthnasol eraill, a lleisiau plant a phobl ifanc, gan gynorthwyo’r rhai a fydd yn datblygu’r cynllun cymunedol.

Pwysleisiodd pob un ohonom y byddai’r grŵp hwn yn parchu’n llawn y partneriaethau lleol a rhanbarthol sydd eisoes yn bodoli, ac y byddai’n cydweithio â nhw. Byddaf yn darparu rhagor o fanylion am hyn maes o law.

Bydd ein gwaith yn Nhrelái a Chaerau yn helpu i lywio rhaglenni ehangach i gydweithio â chymunedau eraill ledled Cymru, a’u cefnogi.

Rydym yn benderfynol y bydd y Cynllun Cymunedol hwn yn sicrhau y gall y gymuned leol yn Nhrelái a Chaerau ailgodi ar ôl digwyddiadau’r wythnos hon.