Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 26 Mai, yn dilyn marwolaeth drasig Harvey Evans a Kyrees Sullivan a’r anhrefn yn Nhrelái, cyhoeddais ddatganiad yn nodi ein bwriad i weithio gyda thrigolion lleol a phartneriaid eraill i ddatblygu cynllun cymunedol i Drelái a Chaerau.

Rydym wedi bod yn parhau i drafod sut i sicrhau bod y cynllun yn cael ei arwain gan y gymuned ei hun. Gallaf gadarnhau nawr y bydd Action for Caerau and Ely (ACE) – sefydliad lleol sydd â hanes hir o gefnogi’r cymunedau hyn - yn ymgymryd â rôl gydlynu amlwg, gan weithio’n agos gyda phob sefydliad lleol drwy grŵp llywio lleol ac ymgysylltu’n eang â thrigolion o bob oed. Bydd y dull hwn yn sicrhau bod y cynllun cymunedol wedi’i wreiddio’n ddwfn yn anghenion a dyheadau pobl Trelái a Chaerau.

Rydym wrthi’n sefydlu Grŵp Cyfeirio Cymunedol, gydag aelodau o wasanaethau cyhoeddus allweddol a chynrychiolwyr cymunedol, a fydd yn cefnogi gwaith y grŵp llywio lleol. Byddaf innau'n cadeirio’r Grŵp Cyfeirio Cymunedol, gydag Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, yn Is-gadeirydd. Rydym yn bwriadu cynnal cyfarfod cyntaf y grŵp hwn ddechrau mis Gorffennaf, gydag amseriad cyfarfodydd pellach i’w benderfynu gan y grŵp llywio lleol. Byddaf hefyd yn mynychu cyfarfod nesaf Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro ddiwedd mis Mehefin.

Bydd manylion y cynllun cymunedol yn dod i’r amlwg yn sgil gwaith y grŵp llywio lleol, ond mae eisoes yn amlwg y bydd angen ffocws cryf ar gefnogi plant a phobl ifanc. Fel rhan o’n hymateb cynnar, felly, bydd rhaglen o weithgareddau i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd, ac i ymgysylltu â nhw, dros y misoedd nesaf, tra bo’r cynllun cymunedol yn cael ei ddatblygu.

Cytunwyd ar gyllid teirochrog rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru i ddarparu cymorth cychwynnol i’r gymuned ac er mwyn datblygu’r cynllun cymunedol.

Wrth ddatblygu’r ymateb cadarn, pwrpasol hwn i’r digwyddiadau trasig yn Nhrelái, rwy’n parhau i fod yn ystyriol o anghenion cymunedau eraill. Bydd ein gwaith yn Nhrelái a Chaerau yn helpu i lywio’r rhaglenni ehangach i gydweithio â chymunedau ledled Cymru, a’u cefnogi.