Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 26 Mai cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn nodi ein bwriad i weithio gyda phreswylwyr lleol, grwpiau cymunedol a phartneriaid i ddatblygu cynllun cymunedol i Drelái a Chaerau. Darparwyd diweddariad pellach ar 19 Mehefin; mae’r datganiad hwn yn cadarnhau’r camau sydd bellach yn mynd rhagddynt.

Mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu’r cynllun cymunedol. Bydd y gwaith yn:

  • Sicrhau y caiff y gwaith o ddatblygu’r cynllun cymunedol ei arwain gan gymunedau llawr gwlad Caerau a Threlái.
  • Datblygu dealltwriaeth o’r cyflyrau/ffactorau sylfaenol a arweiniodd at anrhefn ar 22 Mai, yn dilyn marwolaethau trasig Kyrees Sullivan a Harvey Evans.
  • Deall dyheadau ac uchelgeisiau’r gymuned ar gyfer Trelái a Chaerau a’u cyflawni, gan weithio gyda’r gymuned i nodi camau gweithredu pragmatig a fydd yn gwella deilliannau a chyfleoedd i breswylwyr.

Caiff y gwaith o ddatblygu’r cynllun cymunedol hwn, ynghyd â’r gwaith ymgysylltu i fod yn sail iddo, ei oruchwylio gan grŵp llywio cymunedol, wedi’i hwyluso gan Action for Caerau and Ely (ACE). Bydd aelodau’r grŵp llywio yn bobl o’r gymuned, gan gynnwys sefydliadau a phreswylwyr lleol. Mae cydgysylltydd llawn-amser wedi’i benodi ar gyfer y gwaith hwn, a bydd yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.

Rwyf wedi bod yn glir ynghylch pwysigrwydd sicrhau bod y gwaith hwn yn cefnogi plant a phobl ifanc ac yn fuddiol iddynt, a hynny dros fisoedd yr haf a thu hwnt. Yn unol â hynny, ar 23 Mehefin dyroddwyd i Gyngor Caerdydd lythyr cynnig grant o hyd at £100,000 o gyllid untro ar gyfer ymyrraeth wedi’i thargedu. Caiff yr arian hwn ei roi tuag at weithgareddau i blant a phobl ifanc 0-25 oed yn ardal Trelái a Chaerau.

Mae ACE yn chwilio am 5 gwirfoddolwr i greu’r panel grant cymunedol a fydd yn gweithio gyda grŵp llywio cymunedol a thîm cyfeillgar i blant yr awdurdod lleol er mwyn asesu ceisiadau. Bwriad y cyngor yw dyroddi dyfarniadau grant i ddarparwyr llwyddiannus erbyn 14 Gorffennaf, er mwyn gallu cynnal y gweithgareddau dros yr haf ac yn ystod hanner tymor mis Hydref.

Bydd y gweithgareddau am ddim neu bydd y prisiau wedi’u gostwng yn sylweddol, a byddant yn rhychwantu’r amrediad oedran cyfan, sef 0-25 oed. Byddant yn ategu cynlluniau sydd eisoes yn bodoli ac yn gweithredu yn yr ardal, fel y Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, y prosiect Bwyd a Hwyl a’r Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae. Byddant yn gynhwysol, gyda chyfleoedd i blant o bob gallu. Bydd cynwysoldeb diwylliannol a’r cyfle i gymryd rhan yn Gymraeg a/neu yn Saesneg hefyd yn flaenoriaeth.


Mynychais gyfarfod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd (BGC) ar 28 Mehefin, lle trafodwyd trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer datblygu'r cynllun cymunedol.  Cytunodd yr holl bartneriaid fod rhaid iddo gael ei arwain gan gymunedau lleol. Dylai osgoi dull ‘o’r brig i lawr’ ac ni ddylai gael ei yrru gan wasanaethau cyhoeddus. Gwnaeth y cynigion hyn yn glir a chytunwyd arnynt.

Nodais yn flaenorol fy mwriad i sefydlu grŵp cyfeirio cymunedol fel adnodd ar gyfer y rhai sy’n datblygu’r cynllun cymunedol, i’w gadeirio gennyf i gyda’r Cynghorydd Huw Thomas yn is-gadeirydd. Cynhaliwyd ein cyfarfod cyntaf ar 3 Gorffennaf. Ymysg y partneriaid a wahoddwyd roedd yr heddlu, ysgolion lleol, staff gofal iechyd sylfaenol, grwpiau ffydd, y sector gwirfoddol a’r Comisiynydd Plant. Mynegodd y rhai a oedd yn bresennol gefnogaeth i’r dull gweithredu sydd wedi’i fabwysiadu, gan gytuno i gydweithio i gefnogi’r rhai sy’n datblygu’r cynllun cymunedol. Caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal yn ystod toriad yr haf.

Wrth ddatblygu’r ymateb cadarn hwn wedi’i dargedu i’r digwyddiadau trasig yn Nhrelái, rwy’n ystyriol o anghenion cymunedau eraill. Bydd y gwaith a wnawn yn Nhrelái a Chaerau yn helpu i lywio rhaglenni ehangach i ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru a’u cefnogi.