Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 18 Tachwedd 2024, cyhoeddais y camau nesaf wrth ddatblygu Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) ar gyfer Cymru. Roedd y cyhoeddiad hwnnw'n nodi sut y bydden ni'n gweithio i weithredu cynllun sy'n cyflawni dros Gymru – ar gyfer ein hamgylchedd, ein heconomi a'n cymunedau am ddegawdau i ddod. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi'r cam allweddol nesaf yn nhaith DRS Cymru, wrth i ni ddechrau'r broses i benodi Sefydliad Rheoli Ernes (DMO) i redeg ein cynllun.

Yn dilyn fy natganiad y llynedd, rydyn ni wedi trafod yn helaeth gydag amrediad eang o fusnesau, sefydliadau cynrychioladol, sectorau unigol, sefydliadau ailgylchu ac ailddefnyddio, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadau amgylcheddol i lywio ein dull gweithredu. Fel yr amlinellwyd yn fy natganiad ym mis Gorffennaf, dangosodd y trafodaethau hyn fod y diwydiant yn gryf o blaid alinio'r dyddiadau gweithredu ar gyfer y Cynlluniau Dychwelyd Ernes yn y DU. Hefyd tynnodd sylw i'r angen am ddull graddol ar gyfer gwydr a chyflwyno ailddefnyddio i reoli'r gwahaniaeth yng nghwmpas Cynlluniau Dychwelyd Ernes, a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU. 

O ganlyniad, rydym wedi gwneud addasiadau i'r cynllun yn sicrhau y gallwn gyflwyno DRS sy'n darparu budd clir i Gymru, drwy gefnogi'r newid i ailddefnyddio ac adeiladu ar ein hailgylchu o'r radd flaenaf, wrth hefyd fabwysiadu dull pragmatig ar gyfer gwydr ac ailddefnyddio i sicrhau gweithrediadau cyson ledled y DU. Bydd y newidiadau hyn hefyd yn osgoi risgiau ac effeithiau sylweddol y mae diwydiant wedi eu nodi, a fyddai'n cael eu gweld yn y senario lle mae Cynlluniau Dychwelyd Ernes yn cael eu rhoi ar waith yn y gwledydd eraill ond nid yng Nghymru. 

Rydym wedi gyflymu datblygiad ein cynllun mewn ymateb i'r galw gan ddiwydiant. Fel rhan o hyn, rydyn ni hefyd wedi gwrando'n ofalus ar yr angen y maen nhw wedi'i bwysleisio i ddechrau'r broses i benodi'r Sefydliad Rheoli Ernes cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn darparu'r cyfnod mwyaf o amser sydd ar gael ar gyfer rhoi'r cynllun ar waith ar ôl penodi'r Sefydliad Rheoli Ernes. Heddiw, felly, rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod y broses ymgeisio ar gyfer y Sefydliad Rheoli Ernes yn agor yfory (Dydd Gwener 28 o Dachwedd). Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 23 Ionawr 2026. Mae'r broses ymgeisio yn cael ei dechrau ochr yn ochr â'r gwaith i gyflwyno'r rheoliadau, a fydd yn cael eu gosod gerbron y Senedd ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Yn amodol ar y Rheoliadau Cynllun Dychwelyd Ernes yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd, gall yr ymgeisydd llwyddiannus wedyn gael ei benodi gan Weinidogion Cymru o fis Mawrth 2026 ymlaen. Mae'r dull hwn yn adlewyrchu'r dull a gymerwyd gan Lywodraeth y DU wrth ddatblygu eu rheoliadau a phenodi'r Sefydliad Rheoli Ernes ar gyfer Lloegr.

Gyda Chymru eisoes ymhlith goreuon y byd o ran ailgylchu, mae'n hanfodol ein bod yn efelychu Cynlluniau Dychwelyd Ernes gorau'r byd, er mwyn sicrhau y bydd Cynllun yn adeiladu ar ein perfformiad ailgylchu, sydd eisoes yn uchel. Gyda'r cynlluniau gorau yn rhyngwladol eisoes yn cyflawni ailddefnyddio ar raddfa fawr, mae'r gallu i gefnogi'r newid i ailddefnyddio a gwneud Mwy nag Ailgylchu yn ganolog i’n cynllun ac yn hanfodol i ddarparu gwerth ychwanegol i Gymru. Mae ailddefnyddio deunyddiau yn lleihau'r angen i echdynnu deunyddiau crai, yn galluogi cynwysyddion i gael eu defnyddio sawl gwaith ac felly gall gefnogi cynhyrchwyr i fod yn fwy effeithlon o ran adnoddau, wrth leihau sbwriel ac allyriadau carbon – gan arbed ynni ar yr un pryd. 

Nid i'r amgylchedd yn unig y mae ailddefnyddio’n dda; mae hefyd yn gyfle economaidd a all leihau costau i gynhyrchwyr, creu swyddi gwyrdd newydd, cryfhau gwydnwch y gadwyn gyflenwi a darparu'r cyfle i gadw rhagor o werth economaidd yng Nghymru a gweddill y DU. Hefyd, mae'n gallu helpu i gyfrannu at leihau costau byw a lleihau anghydraddoldeb.

Rydym wedi cytuno i ddefnyddio dull graddol, gwnaethon ni ymrwymo i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus arall i lywio ein dull o ailddefnyddio. Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 10 Tachwedd 2025, a bydd yr ymatebion yn helpu i lunio ffordd o ddechrau ailddefnyddio yn raddol fel rhan graidd o'r cynllun. 

Yn olaf, hoffwn hefyd gydnabod yr adborth gan y diwydiant ar bwysigrwydd sicrhau bod eglurder o ran y gyfraith a sicrwydd i fusnesau. Mae’n hanfodol i sicrhau bod yr holl Gynlluniau Dychwelyd Ernes ledled y DU yn cael eu gweithredu mewn modd effeithiol. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig yn ffurfiol fod y Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru yn cael ei esemptio o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (UKIMA), gan nodi bod holl gwmpas y cynllun o fewn cymhwysedd datganoledig. Rydyn ni hefyd wedi bod yn glir pe na bai'r esemptiad hwnnw, fel y gofynnwyd amdano, yn cael ei dderbyn, gan fyddai hyn yn arwain at y senario lle na fyddai Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru, ac o ganlyniad y byddai angen esemptiad ar gyfer y cynlluniau mewn gwledydd eraill.

Drwy gwblhau  proses hysbysu'r WTO ar 16 Tachwedd, sef dechrau'r broses benodi Sefydliad Rheoli Ernes heddiw, rydyn ni wedi cyrraedd carreg filltir bwysig arall o ran cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes sy'n cyflawni i Gymru. Nid yn unig bydd y Cynllun hwn yn dod â manteision amgylcheddol clir, ond hefyd bydd yn dod â chyfleoedd economaidd ar gyfer twf gwyrdd wrth gefnogi ein newid i Gymru ddiwastraff a sero-net. Drwy barhau i weithio’n gydweithredol, gallwn weithredu cynllun sy’n dod â budd i’n dinasyddion, yn cefnogi’r economi ac, yn ei dro, eich sefydliadau, ac yn gwella ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.