Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2021-22.

Ers 2013-14, mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn aelwydydd agored i niwed ac aelwydydd incwm isel ledled Cymru drwy gynnal eu hawliau llawn i gymorth i dalu eu biliau treth gyngor o dan ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Rydym wedi parhau i gefnogi'r cynllun, gan ddarparu £244m yn y setliad llywodraeth leol blynyddol.  Mae natur deilwredig ein cynllun cenedlaethol yn golygu bod y cymorth hwn wedi'i dargedu tuag at y rhai sydd ei angen fwyaf.

Yn 2021-22, roedd hyn yn golygu bod mwy na 268,000 o aelwydydd sy'n agored i niwed ac aelwydydd incwm isel – sef oddeutu un o bob pump o aelwydydd - wedi elwa ar ostyngiad yn eu treth cyngor.  O'r rhain, ni thalodd bron i 214,000 o aelwydydd unrhyw dreth gyngor o gwbl.

Fel bob amser, ac yn enwedig yn yr amgylchiadau ansicr a heriol presennol, byddwn yn annog pawb i droi at ein gwefan i weld a oes ganddynt hawl i gymorth â’u bil treth gyngor drwy ein cynllun gostyngiadau neu drwy un o'r amryw o ostyngiadau ac eithriadau sydd ar gael.

Rwy'n ddiolchgar am gymorth parhaus yr awdurdodau lleol o ran gweithredu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yng Nghymru ac o ran helpu i sicrhau bod y cymorth ariannol pwysig hwn yn cyrraedd yr aelwydydd sy’n gymwys.  Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau, lle bo’n cyllidebau'n caniatáu, bod camau'n cael eu cymryd i liniaru effeithiau'r argyfwng costau byw rydym yn byw drwyddo.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am y canfyddiadau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn ailagor, byddwn yn hapus i wneud hynny.