Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw fy mod wedi dyrannu £50 miliwn dros y 2 flynedd nesaf i adnewyddu eiddo gwag ledled Cymru er mwyn eu defnyddio eto a hynny drwy gynllun grant cartrefi gwag cenedlaethol.

Mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfer 2023/24 a gyhoeddwyd ar 19 Ionawr yn dangos bod 22,457 o eiddo gwag hirdymor yng Nghymru. Mae eiddo gwag hirdymor yn adnodd tai nad yw’n cael ei ddefnyddio a gallant ddod yn faich ar ein cymunedau.

Rwy’n rhoi’r grant hwn ar waith fel cymhelliad ychwanegol i ostwng nifer yr eiddo gwag ymhellach a thrwy hynny, cynyddu’r cyflenwad tai.

Mae’r cynllun newydd wedi’i ddatblygu gydag awdurdodau lleol ac mae’n adeiladu ar lwyddiant ein benthyciadau eiddo presennol a Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd blaenorol. Bydd grant gwerth hyd at £25,000 ar gael i berchnogion tai neu ddarpar berchnogion tai i gael gwared â pheryglon sylweddol o’u heiddo i’w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt a gwella eu heffeithlonrwydd ynni.  Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y grant, rhaid bod yr eiddo wedi’i gofrestru yn wag gyda’r awdurdod lleol am o leiaf 12 mis cyn dechrau ar y gwaith. Unwaith y mae’r gwaith wedi’i gwblhau, rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fyw yn yr eiddo hwnnw am o leiaf 5 mlynedd a hynny fel ei brif a’i unig breswylfa.

Ynghyd â pherchen-feddiannwyr, bydd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, awdurdodau lleol a grwpiau cartrefi cymunedol hefyd yn gallu cael gafael ar gyllid ar gyfer eiddo gwag sydd yn eu meddiant i’w hadnewyddu a’u defnyddio yn dai fforddiadwy. Mae hyn felly yn fesur ychwanegol rydym yn ei gymryd i fwrw ati â’r ymrwymiad yng Nghytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru i ddod â chyfran uwch o dai presennol, ac yn arbennig cartrefi gwag, i berchnogaeth ar y cyd ar lefel leol.

Bydd y cynllun yn cael ei weinyddu ar ein rhan gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Gellir dod o hyd i restr o’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan ar ein gwefan. Bydd rhagor o awdurdodau yn cael eu hychwanegu at y rhestr wedi iddynt ymuno â’r cynllun.

Bydd gan bob awdurdod lleol sy’n cymryd rhan ddyraniad tybiannol bob blwyddyn. Byddant yn gyfrifol am gynnal archwiliadau o’r eiddo er mwyn canfod ac argymell y gwaith sy’n gymwys ar gyfer cyllid grant.