Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mawrth 2012, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu cau’r rhan fwyaf o ffatrïoedd Remploy ledled y DU. Roedd saith o’r naw ffatri yng Nghymru ymhlith y ffatrïoedd hynny. Wedi hynny, cyhoeddodd ei phenderfyniad i gau pump o ffatrïoedd Cymru ym mis Gorffennaf, cyn cyhoeddi’n ddiweddarach ei bod yn bwriadu cau’r ddwy ffatri a oedd yn weddill hefyd; y naill ym mis Medi a’r llall ym mis Tachwedd.

Gydol y broses hon, mae Gweinidogion Cymru wedi gwrthwynebu cau unrhyw ffatri. Nid ydym o’r farn y bydd cau ffatrïoedd yn gwella bywydau pobl anabl. Dod o hyd i gyflogaeth brif ffrwd ddylai fod y nod i’r rhan fwyaf o bobl anabl. Fodd bynnag, rydym yn credu hefyd bod galw am gyflogaeth â chymorth a chyflogaeth warchodol, datblygiad sgiliau a darpariaethau eraill o ran gwasanaethau cyhoeddus er mwyn ystyried yr amrywiaeth eang o anableddau sydd gan unigolion yn y gymdeithas.

Ym mis Gorffennaf, cyflwynais raglen o gefnogaeth i helpu gweithwyr Remploy yng Nghymru sydd wedi’u diswyddo i ddod o hyd i swyddi eraill addas mewn ymgais i geisio lleddfu’r effaith a gaiff cau’r ffatrïoedd. Cafodd y Grant Cymorth i Gyflogwyr ei gynnig i gyflogwyr yn y sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector a fyddai’n gallu rhoi swyddi addas a chynaliadwy i gyn-weithwyr anabl Remploy a oedd wedi’u diswyddo o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU. Mae’r Grant yn cynnig pecyn cymorth ariannol a fydd yn lleihau’n raddol hyd at gyfnod o bedair blynedd o gyflogaeth, ac mae hefyd yn cynnwys proses baru llym. Bydd Cynghorwyr Anabledd o’r Adran Gwaith a Phensiynau a Gwasanaethau Cyflogaeth Remploy yn cymryd rhan yn y broses honno.

Yn sgil cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth y DU ynglŷn â’r bwriad i gau Ffatri Remploy ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rwy’n cyhoeddi heddiw fy mod wedi ymrwymo i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r Cynllun Grant Cymorth i Gyflogwyr tan ddiwedd mis Mawrth 2013. Bydd hyn yn sicrhau bod gweithwyr sy’n cael eu heffeithio, ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn y chwe safle arall, yn dal i gael cynnig cefnogaeth lawn gan y rhaglen hon a weinyddir gan Lywodraeth Cymru.  

Mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiant eisoes. Crëwyd 97 o swyddi hyd yma, sy’n cynnwys 26 o gyflogwyr o sectorau amrywiol. Mae 20 o weithwyr eisoes wedi dechrau yn eu gwaith, a bydd llawer mwy yn dechrau yn eu swyddi newydd cyn hir. Mae llawer mwy eto yn y broses o gael eu paru â swyddi.  

Mae fy swyddogion i wedi cydweithio â Social Firms Wales, Canolfan Cydweithredol Cymru, Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Cymru, y Ganolfan Byd Gwaith a Rheolwyr Remploy lleol i ddod o hyd i gyflogwyr a chyfleoedd busnes i greu swyddi newydd ar gyfer gweithwyr anabl Remploy sydd wedi colli eu swyddi. Maen nhw hefyd yn cydweithio’n agos â thimau Canolfannau Byd Gwaith lleol i sicrhau bod y broses recriwtio yn mynd rhagddi’n llyfn.  

Mae’r cynllun Grant Cymorth i Gyflogwyr yn enghraifft weithredol, felly, o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi swyddi i bobl o bob sgìl a gallu sy’n rhoi boddhad ac sy’n hygyrch iddynt. Rydym wedi ymrwymo o hyd i sicrhau ein bod yn dod o hyd i gyflogaeth addas ar gyfer cynifer â phosibl o weithwyr anabl Remploy sydd wedi colli eu swyddi.