Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cymunedau pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol (LGBT+) yn profi anghydraddoldeb anghymesur mewn pob math o ffyrdd, gan gynnwys mynediad at wasanaethau iechyd; bwlio, gwahaniaethu a throseddau casineb; iechyd meddwl gwaeth; a lefelau boddhad cyffredinol mewn bywyd. Mae’r anfantais hon yn dwysáu ymhellach pan fydd yna nodweddion gwarchodedig eraill hefyd yn wir am yr unigolion hyn, gan gynnwys oedran, hil, rhyw, rhywedd, crefydd ac anabledd.

Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â chymunedau LGBT+ i ddatblygu cynllun LGBTQ+ ar gyfer Cymru. Yn dilyn gwaith ymgysylltu cychwynnol â dros 600 o bobl haf diwethaf, lluniwyd Panel Arbenigwyr o bobl sydd â phrofiad cymunedol, proffesiynol, sefydliadol, academaidd a phersonol eang i lywio’r gwaith hwn. Mae’r Panel Arbenigwyr wedi cyfarfod sawl gwaith dros y misoedd diwethaf i gytuno ar y materion y mae angen rhoi sylw iddynt mewn cynllun newydd os ydym i newid y sefyllfa yn sylweddol a gwella pethau i’n holl ddinasyddion LGBT+.

Mae’n bleser gennyf gael adroddiad terfynol y panel, a’r 61 o argymhellion sy’n cwmpasu’r holl brif feysydd a nodwyd yn y gwaith ymgysylltu cynharach. Mae’r rhain wedi’u trefnu o dan chwe phrif thema: Hawliau Dynol a Chydnabyddiaeth; Diogelwch; Cartref a Chymunedau; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Addysg; y Gweithle.

Mae angen ystyried yr adroddiad yn ofalus, a dyna fydd yn digwydd, ond mae eisoes yn glir i mi bod yr argymhellion yn rhai teg a dilys. Rwy’n croesawu’r adroddiad yn galonnog, felly, ac wedi rhoi cyfarwyddyd i’m swyddogion drafod gydag adrannau Llywodraeth Cymru er mwyn cytuno ar y camau i’w cynnwys yn y cynllun a’u gweithredu.

Mae’r Panel Arbenigwyr wedi argymell y dylem o hyn allan ddefnyddio’r acronym LGBTQ+ mewn perthynas â’r gwaith hwn. Mae’r panel a Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod yna wahanol safbwyntiau ac arferion ar draws ein cymunedau, a bod pethau’n debygol o newid eto yn y dyfodol. 

Byddwn yn sicrhau hefyd bod y cynllun mor gydnaws â phosibl â Chynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru a chynlluniau eraill sy’n hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys ein Cynllun Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau, y Fframwaith Gweithredu ar Anabledd a’r Cynllun Gweithredu arfaethedig ar gyfer Cydraddoldeb Hiliol. 

Caiff Cynllun Gweithredu drafft ar gyfer LGBTQ+ i Gymru ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.

Mae’n hollbwysig mai profiadau pobl LGBTQ+ sy’n llywio cynnwys a chamau’r cynllun ym mhob rhan o’r broses. Bydd cyfleoedd pellach, felly, i bobl LGBTQ+ a rhanddeiliaid perthnasol drafod a rhoi eu barn yn ystod y cyfnod ymgynghori, yn ogystal â’r cyhoedd yn gyffredinol, cyn i’r Cynllun Gweithredu gael ei gwblhau’n derfynol. Rwy’n arbennig o awyddus i gynnwys pobl ifanc ymhellach yn y drafodaeth, a byddwn yn gweithio gyda chyrff cynrychiadol er mwyn cyrraedd cymaint o bobl o bob oedran â phosibl.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i holl aelodau’r Panel Arbenigwyr am eu gwaith caled a’u hymroddiad sydd wedi ein galluogi i gyrraedd y cam hanfodol hwn yn y gwaith o ddatblygu’r cynllun newydd. Rwyf am ddiolch hefyd i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses hyd yn hyn, ac rwyf am annog cymaint â phosibl i gyfrannu i’r ymgynghoriad yn nes ymlaen eleni.