Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau yn falch o glywed ein bod ni’n lansio Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi 2013 ar y cyd heddiw. Mae’r Cynllun yn adeiladu ar y gweithgarwch a gyhoeddwyd gennym y llynedd.

Ers hynny mae amryw o amgylchiadau wedi cyfuno mewn ffordd sy’n bygwth y cymunedau mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae pobl yn wynebu cyfnod o galedi yn sgil economi gwbl ddifywyd, newidiadau i’r system les, toriadau i wariant cyhoeddus a chynnydd mewn costau byw. Mae’r ffactorau hyn yn golygu y bydd llawer o bobl yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mae’n debyg y bydd ein gwasanaethau iechyd, ein gwasanaethau cymdeithasol a’n gwasanaethau tai yn teimlo straen cynyddol, a hwythau eisoes yn gwegian o dan y straen.

Fel y gwyddoch, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth dros y system fudd-daliadau na’r prif ysgogiadau economaidd. Pe byddai gennym reolaeth drostynt, byddem yn eu defnyddio’n wahanol iawn. O ganlyniad i fesurau darbodus Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn colli £3 biliwn o’i chyllideb yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Felly mae terfyn ar yr hyn y gallwn ei wneud i wella bywydau’r trigolion hynny fydd yn teimlo effaith yr holl newidiadau hyn.

Er gwaethaf y rhagolygon llwm hyn, rydym yn dal i fod wedi ymrwymo i drechu tlodi. Mae’r hinsawdd sydd ohoni’n golygu ei bod yn bwysicach nag erioed inni wthio’r agenda hon yn ei blaen drwy roi blaenoriaeth i anghenion y bobl dlotaf ac amddiffyn y rheini sydd fwyaf mewn perygl o dlodi ac o gael eu heithrio. 

Ein cyfrifoldeb yw sicrhau bod popeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn cyfrannu at drechu tlodi, fis Mawrth diwethaf. Gyda’n gilydd, rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i ffyrdd o atal a lleihau tlodi yng Nghymru. Mae’r Cynllun hwn yn arwydd clir y bydd y Llywodraeth drwyddi draw yn defnyddio ei hadnoddau er mwyn helpu’r rheini sydd fwyaf mewn angen a cheisio rhwystro cenedlaethau’r dyfodol rhag mynd yn dlawd.  Dyna pam y mae ein rhaglen flaengar, Cymunedau yn Gyntaf, wedi newid i fod yn rhaglen sy’n canolbwyntio ar drechu tlodi. Mae'n ein galluogi i estyn llaw i’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan dlodi, a chydgysylltu’r hyn a wnawn ar draws y Llywodraeth i helpu’r trigolion.

O ystyried mor ddifrifol yw’r heriau sy’n ein hwynebu, rydym wedi penderfynu mynd ati mewn ffordd wahanol yn y Cynllun hwn.  Byddwn yn gwneud mwy i helpu i wella cyrhaeddiad addysgol plant o deuluoedd incwm isel; byddwn yn helpu rhagor o bobl i gael swyddi, yn arbennig ar aelwydydd lle nad oes gan unrhyw un swydd gyflogedig; byddwn yn lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt yn ennill cyflog nac yn dysgu yng Nghymru; a byddwn yn gweithio i sicrhau bod pawb, waeth pa mor dlawd ydynt neu ba mor ddifreintiedig yw’r ardal y maent yn byw ynddi, yn cael mynediad teg a chyfartal at wasanaethau hanfodol. Os gallwn wneud cynnydd ym mhob un o’r pedwar maes hwn, yna rydyn ni’n credu y byddwn yn gweddnewid bywydau degau o filoedd o bobl Cymru.

Mae helpu pobl i gael gwaith yn agwedd bwysig ar godi pobl allan o dlodi. Byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar y meysydd ble gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf ac yn hoelio’n sylw ar greu 5,000 o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i aelwydydd, gan ddechrau yn o leiaf chwech o’n hardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Rydym yn awyddus i wneud hyn gan fod diweithdra yn gallu effeithio ar gynifer o agweddau ar fywyd.

Gellir rhannu ein dull gweithredu yn dri maes: atal tlodi, helpu pobl i gael gwaith a lliniaru effeithiau tlodi.

Rydym wedi rhifo’r camau rydym yn bwriadu eu cymryd er mwyn rhoi darlun clir o’r hyn rydym yn ceisio’i wneud, a hynny fel y gellir ein dal i gyfrif. Rydym hefyd wedi nodi sut y byddwn yn mesur hynt y gwaith - hyd yn oed os ydym yn brwydro yn erbyn y llif.

Mae Llywodraeth Cymru yn deall pwysigrwydd canolbwyntio ar godi pobl allan o dlodi, ac ymdrechu ar yr un pryd i liniaru effeithiau beunyddiol tlodi ar bobl ac ar gymunedau. Mae’r Cynllun hwn yn disgrifio’r camau rydym yn eu cymryd yng Nghymru er mwyn gwneud gwahaniaeth. Bydd rhai o’r pethau hyn yn cael effaith uniongyrchol a bydd eraill yn helpu mewn ffyrdd llai uniongyrchol, ond yr un mor bwysig.

Rydym wedi ymrwymo i wthio’r gwaith yn ei flaen drwy weithio ar draws y Llywodraeth a gweithio law yn llaw â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Rydym yn deall y bydd rhaid i ni wynebu dewisiadau anodd a byddwn yn seilio ein gwaith ar dystiolaeth o’r hyn sy’n debyg o gael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar bobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol.   Byddwn yn cadw llygaid barcud ar hynt y Cynllun a byddwn yn ei newid ar sail profiad.

Nid ydym, fel Llywodraeth, yn honni bod y Cynllun hwn yn cynnwys yr holl atebion. Ond rydym yn gwneud mwy ag unrhyw lywodraeth arall yn y DU ac mae hynny’n dangos ein hymrwymiad i fynd ati’n gwbl ddigyfaddawd i drechu tlodi a gwella bywydau pobl fwyaf difreintiedig Cymru.