Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ein cynllun gweithredu ar y cyd i fynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol o ran y coronafeirws. Datblygwyd y cynllun ar y cyd â Llywodraeth Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill ac mae’n cyflwyno ymateb ar gyfer y DU i gyd, ar sail ein profiad o ddelio â chlefydau heintus eraill a’r gwaith sydd wedi’i wneud yn y gorffennol i baratoi ar gyfer pandemig o’r ffliw.

Mae’r cynllun gweithredu yn ymdrin â’r materion canlynol:

  • yr hyn rydym yn ei wybod am y feirws, a’r salwch a achosir ganddo
  • sut rydym wedi cynllunio ar gyfer achosion o glefyd heintus, fel y sefyllfa bresennol o ran y coronafeirws
  • y camau gweithredu rydym wedi’u cymryd hyd yma i ymateb i’r achosion presennol o goronafeirws
  • yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud nesaf, gan ddibynnu sut bydd y sefyllfa’n datblygu
  • beth y gall y cyhoedd ei wneud i gefnogi’r ymateb, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Bydd yr union ymateb i COVID-19 yn cael ei deilwra yn unol â natur, graddfa a lleoliad y bygythiad yn y DU, wrth i’n dealltwriaeth o’r achosion presennol ddatblygu. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu iechyd pobl Cymru.