Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, gyda thua 50 diwrnod nes inni dechrau ar berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd, byddaf yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwedd y Cyfnod Pontio.

Mae Cynllun Diwedd y Cyfnod Pontio yn nodi’r materion y mae Cymru yn eu hwynebu, a’n blaenoriaethau strategol wrth inni nesáu at ddiwedd y Cyfnod Pontio, a thu hwnt, gan ystyried effeithiau parhaus pandemig COVID-19 a’r pwysau sydd ar ein heconomi ar hyn o bryd. Mae’n disgrifio’r camau rydym yn eu cymryd, ac wedi’u cymryd, yn annibynnol ac ar y cyd â Llywodraeth y DU a phartneriaid yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, unigolion a chymunedau mor barod ag sy’n ymarferol bosibl. Mae hefyd yn amlinellu lle mae ein camau gweithredu fel llywodraeth yn dibynnu ar y camau y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdanynt.

Yn anffodus, fel y mae pethau heddiw, mae’r math o berthynas fydd rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol yn dal yn aneglur inni. Yr unig beth sy’n glir yw, p’un a fydd y negodiadau parhaus yn arwain at gytundeb ai peidio, y bydd newidiadau sylweddol iawn yn deillio o drefniadau presennol y Cyfnod Pontio. Bydd ein cyfnod estynedig fel rhan o farchnad sengl yr UE a’r undeb tollau yn dod i ben ar 1 Ionawr 2021.

Roeddem yn glir ar ddechrau’r negodiadau na ddylai’r amserlen gael ei chyfyngu mewn modd artiffisial gan derfyn amser mympwyol. Mae pandemig COVID-19 wedi gwneud yr achos dros ymestyn y cyfnod pontio hyd yn oed yn fwy cymhellol. Ni wrandawodd Llywodraeth y DU.

O ganlyniad, mae dal angen i ni gynllunio ar gyfer y senario waethaf posibl, sef gadael y Cyfnod Pontio heb gytundeb gyda’r UE ar ein perthynas yn y dyfodol – ar adeg pan mai dim ond capasiti cyfyngedig sydd gan y Llywodraethau Datganoledig a Llywodraeth y DU, yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a sefydliadau eraill, i baratoi’n ddigonol. Mae angen brys i fusnesau, y cyhoedd a Llywodraethau Datganoledig ganolbwyntio ar oblygiadau’r pandemig a’r bygythiad uniongyrchol y mae hyn yn ei beri i fywydau a bywoliaethau, gan eu bod yn ailgyfeirio adnoddau presennol o’r gwaith paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.

Ym mis Medi 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dogfen ‘Paratoi ar gyfer Brexit heb Gytundeb’ i baratoi ar gyfer y posibilrwydd y byddem yn gadael yr UE heb Gytundeb Ymadael ffurfiol. Roedd y ddogfen honno yn amlinellu trosolwg Llywodraeth Cymru o beth fyddai prif risgiau strategol canlyniad o’r fath.

Ond mae’r sefyllfa’n wahanol erbyn hyn. Ar un llaw, mae rhai o’r risgiau a nodwyd yn y cynllun ar gyfer ymadael heb gytundeb wedi eu lliniaru gan y Cytundeb Ymadael ac ar y llaw arall, mae rhai o’r risgiau wedi gwaethygu yn sgil y pandemig. Wrth i’r negodiadau fynd rhagddynt, mae wedi dod yn gliriach y bydd rhwystrau newydd sylweddol i fasnachu a chydweithredu â’r UE o 1 Ionawr 2021, hyd yn oed os llwyddir i gael canlyniad wedi’i negodi.

Mae nifer o’r camau oedd yn eu lle ar gyfer ymadael heb gytundeb y llynedd, wedi helpu i lunio ein hymateb i bandemig COVID. Rydym wedi rhoi arian sylweddol yn yr economi ac wedi rhoi ystod o fesurau ar waith i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae’r rhain wedi bod yn hollbwysig wrth ymdrin â’r materion sy’n deillio o sefyllfa o’r natur hon. Mewn cyferbyniad â hynny, mae’r canlyniadau a ddaw yn sgil gadael y Cyfnod Pontio ar yr adeg hon ac yn y ffordd hwn, yn deillio o ddewisiadau Llywodraeth y DU ac yn ganlyniad i’w dull o negodi gyda’r UE. Ni fyddai wedi bod angen nifer o’r camau rydym wedi’u hamlinellu yng Nghynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio pe bai Llywodraeth y DU wedi dewis dull llai dogmatig o ymdrin â’r negodiadau yn unol â’r safbwyntiau rydym wedi’u hybu ers tro.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn parhau i ddatblygu’r camau yn y cynllun yng ngoleuni canlyniad y negodiadau. Gyda thua 50 diwrnod tan y bydd perthynas y DU â’r UE yn newid yn sylfaenol, gofynnwn i bawb yng Nghymru baratoi gan ddefnyddio’r wybodaeth, y cyngor a’r cymorth sydd ar gael.

Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwedd y Cyfnod Pontio ar gael yn:

https://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-diwedd-y-cyfnod-pontio-2020