Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru a Huw Lewis AC, Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n falch o’r cyfle yma i allu diweddaru Aelodau ar sut bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu’r cynigion a amlinellir yn ein strategaeth Iaith, Iaith fyw: Iaith byw 2012-17 yn ei flwyddyn derfynol.

Mae’r cynllun gweithredu blynyddol a cyhoeddir heddiw,  yn adlewyrchu’r blaenoriaethau y datganiad polisi Bwrw Mlaen a gyhoeddwyd ym mis Awst 2014, sy’n amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth weithredu’r Strategaeth dros y dair blynedd hyd ddiwedd cyfnod y Strategaeth.

Yn sicr bydd 2016-17 yn gyfnod pwysig i’r Gymraeg gyda chyrff yn gorfod dechrau cydymffurfio gyda'r set gyntaf o Safonau y Gymraeg ar 30 Mawrth 2016. Fel mae’r cynllun gweithredu yn nodi bydd y gwaith o lunio Rheoliadau yn parhau yn unol â blaenoriaethau Comisiynydd y Gymraeg.

Llaw yn law a’r gwaith pwysig o reoleiddio bydd parhad i’r gwaith o hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg trwy’r ymgyrch newid ymddygiad ‘Pethau Bychain’, trwy cyflwyno’r siarter iaith Gymraeg mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru ac ymgyrchoedd penodol eraill.

Wrth edrych ymlaen i’r hirdymor yn ystod 2016-17, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i bennu’r cyfeiriad ar gyfer strategaeth iaith Gymraeg newydd. Bydd rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth i’r llywodraeth newydd.