Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Yr wythnos hon, rydym yn nodi blwyddyn ers cyhoeddi'r Cynllun Iechyd Menywod. Dyma ddogfen arloesol a fydd yn newid y ffordd y mae'r GIG yn gwrando ar fenywod a merched a'u trin. Wedi'i ddatblygu a'i ysgrifennu gan y Rhwydwaith Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod a'i lywio gan brofiadau bron i 4,000 o fenywod o bob cwr o Gymru, mae hwn yn gynllun byw a fydd yn cyflawni newid gwirioneddol dros ei oes o 10 mlynedd.
Heddiw, lansiodd y Prif Weinidog a minnau Ymchwil Iechyd Menywod Cymru i nodi blwyddyn o gynnydd a chyflawni. Bydd y ganolfan hon yn dod ag arbenigwyr, partneriaid y GIG, y diwydiant a chymunedau ledled Cymru ynghyd i greu rhwydwaith cryf a chydweithredol.
Yn yr wythnosau i ddod, byddwn yn lansio hybiau iechyd menywod ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru. Bydd yr hybiau, sydd wedi'u datblygu dros y 12 mis diwethaf, yn darparu gwybodaeth glir ynghylch y menopos, problemau mislif, atal cenhedlu a phoen yn y pelfis, ac yn sicrhau bod modd cael gofal ar eu cyfer yn haws. Byddan nhw'n ei gwneud hi'n haws i fenywod a merched gael gofal yn nes at y cartref ar yr adeg iawn, gan helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer y rhai sydd angen triniaeth yn yr ysbyty.
Rwy'n falch o roi gwybod, yn ystod y flwyddyn gyntaf, fod gwaith wedi'i gynnal i fwrw ymlaen â thraean o 64 o gamau gweithredu'r Cynllun Iechyd Menywod. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- Mae fframwaith cenedlaethol wedi'i ddatblygu ar y cyd â'r Ganolfan Ymchwil Iechyd Menywod a Thriniaeth Deg i Fenywod Cymru i sicrhau bod lleisiau menywod yn llywio gwasanaethau.
- Mae adnoddau newydd i ysgolion wedi'u cyflwyno i hyrwyddo sgyrsiau am iechyd a llesiant mislif gyda phobl ifanc. Yn ogystal, mae diweddariadau i'r ymgyrch Mislif Fi, gan gynnwys adnodd lleoli cynhyrchion mislif am ddim, yn y camau datblygu olaf a byddant yn cael eu cyflwyno cyn bo hir.
- Mae Arweinwyr Clinigol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi'u recriwtio i'r Rhwydwaith Iechyd Menywod i ymgorffori croestoriadedd ym maes iechyd menywod.
- Mae tudalennau gwe ar iechyd menywod ar wefan GIG Cymru bellach yn fyw, a bydd gwefan newydd wedi'i chydgynhyrchu yn cael ei lansio yn y gwanwyn. Bydd yn grymuso menywod drwy roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd.
- Canolbwyntiodd y digwyddiad rhanddeiliaid Cymru gyfan cyntaf ar iechyd menywod ar gydgynhyrchu, trais yn erbyn menywod a'r hybiau iechyd menywod newydd.
Wrth inni symud i ail flwyddyn y Cynllun Iechyd Menywod, dyma ein blaenoriaethau:
- Ehangu Hybiau Iechyd Menywod: Bydd yr hybiau cyntaf yn agor yn gynnar yn 2026. Mae blaenoriaethau'n cynnwys sicrhau bod gan bob bwrdd iechyd gynllun gweithredu clir a'i fod yn gallu cyflwyno gwasanaethau integredig.
- Ymchwil ac Arloesi: Bydd digwyddiad ymchwil iechyd menywod yn cael ei gynnal yn gynnar yn 2026 i sbarduno cydweithio a llywio blaenoriaethau ymchwil yn y dyfodol.
- Cryfhau Gwasanaethau Endometriosis: Mae'r gwaith yn parhau i wella safon y gofal i fenywod ag endometriosis. Mae grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i sefydlu, sy'n dod â chlinigwyr allweddol â sgiliau arbenigol ynghyd o bob cwr o Gymru. Bydd y grŵp hwn yn datblygu manyleb gwasanaeth i sefydlu gwasanaethau arbenigol a gomisiynir yn genedlaethol ar gyfer gofal endometriosis trydyddol yng Nghymru.
- Cryfhau Gwasanaethau Erthylu: Mae'r Rhwydwaith Iechyd Menywod yn gweithio gyda rhanddeiliaid ac arweinwyr clinigol i ddatblygu cynllun cynaliadwy a fydd yn sicrhau bod menywod ledled Cymru yn gallu cael mynediad at ofal erthylu diogel ac amserol.
- Gwrando ar Leisiau Menywod: Parhau i drafod â menywod ledled Cymru i sicrhau bod gwasanaethau yn adlewyrchu eu hanghenion a'u profiadau.
Gyda'n gilydd, rydym yn llunio system gofal iechyd decach a mwy ymatebol ar gyfer menywod a merched ledled Cymru.
