Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 17 Mawrth 2021, nodais sut y byddwn yn gweithredu ar sail canfyddiadau'r adolygiad o'n polisi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen arbenigol i lunio cynigion ynghylch sut i ddatblygu ein polisi ymhellach.

Gofynnais hefyd i'r grŵp am gyngor a syniadau ynghylch sut y gellid gwneud y defnydd gorau o £500,000 ychwanegol i helpu i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Hoffwn ddiolch i'r grŵp am ei waith.

Un o gynigion allweddol y grŵp oedd datblygu cynllun pwrpasol sydd bellach ar y gweill. Bydd hwn yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a materion eraill sy’n achosi gofid i blant, gan gynnwys hiliaeth, gwahaniaethu a thlodi. Bydd hefyd yn rhoi eglurder a chyfeiriad i sefydliadau ar eu rôl wrth fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol a'r camau i’w cymryd.

Rwy'n bwriadu cyhoeddi'r cynllun yn yr haf, ochr yn ochr â fframwaith ymarfer newydd yn seiliedig ar drawma, sy'n cael ei ddatblygu gan Straen Trawmatig Cymru a Chanolfan Gymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Byddant yn ymgynghori ar fframwaith drafft yn y gwanwyn.

Bydd y fframwaith yn rhan bwysig o gynllun Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, a bydd yn helpu i wella dealltwriaeth gwasanaethau o faterion sy’n achosi gofid a thrawma i blant, a'u hymateb i hynny.

O ran y £500,000 ychwanegol, mae'n bleser gennyf gyhoeddi:

•   £60,000 i Barnardo's Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer grwpiau hunangymorth a chydgymorth yn y gymuned, i'w helpu i fabwysiadu arferion sy'n seiliedig ar drawma;

•   £60,000 i Gymorth i Ferched Cymru i wella'r cymorth i blant a phobl ifanc er mwyn lleihau effaith hirdymor profiad o gam-drin domestig;

•   £180,000 i gefnogi gweithgarwch cydweithredol, sy'n helpu i gyflawni ein blaenoriaethau strategol o ran cyfiawnder a chydraddoldeb i bobl sydd wedi profi ac wedi cael eu heffeithio gan faterion sy’n achosi gofid a thrawma i blant;

•   £200,000 i gynllun grant ar gyfer sefydliadau cymunedol, ar gyfer prosiectau i fynd i'r afael â materion sy’n achosi gofid a thrawma i blant, i liniaru eu heffaith ac i feithrin gwydnwch. Mae'r cyllid yn cael ei weinyddu gan swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a Chanolfan Gymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Mae grantiau gwerth cyfanswm o £183,000 eisoes wedi'u dyfarnu i 15 sefydliad ledled Cymru, yn amrywio o £5,487 i Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Marc yn Hwlffordd, i gefnogi gweithgareddau cyfoethogi ar gyfer disgyblion sy'n profi materion sy’n achosi gofid iddynt, i £30,000 i'r Gymuned Affricanaidd yn Abertawe, ar gyfer prosiect cydweithredol i gefnogi teuluoedd sydd wedi profi trawma. 

Rwy'n falch ein bod wedi gallu ariannu cynifer o brosiectau cymunedol gwerthfawr, gan helpu i fynd i'r afael â materion sy’n achosi gofid a thrawma i blant, a lliniaru eu heffaith. Byddwn yn gwerthuso effaith y prosiectau ac yn defnyddio unrhyw wersi a ddysgwn i lywio'r gwaith o ddatblygu'r cynllun Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.

Byddaf yn ceisio rhoi adroddiad i'r Aelodau cyn cyhoeddi'r cynllun a'r fframwaith ymarfer.