Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Adran 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud, adolygu ac, o bryd i'w gilydd, ail-wneud neu ddiwygio Cynllun Llywodraeth Leol. Mae'r Cynllun yn nodi sut y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig cynnal a hybu llywodraeth leol yng Nghymru, wrth arfer eu swyddogaethau.

Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Cynllun Lywodraeth Leol diwygiedig i'r Cynulliad Cenedlaethol heddiw  http://gov.wales/topics/localgovernment/partnership-with-local-government/lgps08/?skip=1&lang=cy.  Cyhoeddwyd y Cynllun Llywodraeth Leol blaenorol yn 2008. Roedd yn adlewyrchu'r agenda ar y pryd ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus, a oedd yn cydnabod bod yn rhaid i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus gydweithio mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, a hynny ar draws ffiniau daearyddol, i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol. Er bod nifer o elfennau'r Cynllun yn parhau i fod yn berthnasol, mae llawer wedi newid ers hynny.

Lluniwyd y Cynllun newydd hwn yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac mae'n adlewyrchu'r themâu sy'n sail i'r modd y mae Llywodraeth Cymru'n mynd ati o ran y gwaith o ddiwygio a hefyd i'r model o gyflawni gwasanaethau y dymunwn ei weld yn y dyfodol.  Datblygwyd y Cynllun mewn partneriaeth â'r Cyngor Partneriaeth ei hun, ac mae'n adlewyrchu yr agenda rydym yn ei rhannu a ffyrdd o weithio yr ydym yn gytûn arnynt.  

Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y ffordd y cafodd y Cynllun ei roi ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol a chyflwyno copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  Wrth gyflwyno adroddiadau ar y cynllun newydd hwn, byddwn yn llunio'r adroddiad ar y cyd ag aelodau o Gyngor Partneriaeth Cymru a'i sylwedyddion.

Fel rhan o hyn, mae Cyngor Partneriaeth Cymru yn darparu fforwm i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ehangach gynnig cyngor a chyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru am faterion sy'n cael effaith ar lywodraeth leol a chytuno ar sut y gallant wella canlyniadau ar gyfer dinasyddion yng Nghymru.

Rwy'n bwriadu parhau i feithrin perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol fel rhan o raglen eang o ddiwygio llywodraeth leol er mwyn atgyfnerthu ei chadernid a'i hadnewyddu. Mae'r Cynllun newydd hefyd yn darparu cyfle i fynegi'r berthynas newydd hon mewn geiriau ac i adlewyrchu'n gywir y gwahanol gydberthnasau sydd gan Lywodraeth Cymru â chyrff eraill a gynrychiolir ar y Cyngor Partneriaeth.