Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Mae ein cynllun peilot blaengar ac arloesol, y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru wedi darparu incwm sylfaenol o £1,600 y mis i 644 o bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru, cyn treth, am hyd at 24 mis ar ôl troi'n 18 oed. Mae wedi creu, ac yn parhau i greu, diddordeb helaeth yn fyd-eang, ac rwy'n gwybod bod fy nghydweithwyr yn y Senedd yn parhau i fod yn awyddus i ddysgu am hynt a helynt y cynllun peilot.
Mae bron pob un o'r rhai sydd wedi bod yn cael taliadau wedi derbyn y taliadau incwm sylfaenol terfynol ac wedi dod i ddiwedd eu cyfnod yn y cynllun peilot.
Prif ysgogiad y polisi yw cefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal awdurdod lleol i wneud hynny yn y ffordd fwyaf cadarnhaol bosibl, drwy gynnig incwm sylfaenol. Mae'r buddsoddiad uniongyrchol hwn wedi ehangu'r hyn yr ydym eisoes yn ei ddarparu i bobl sy'n gadael gofal yng Nghymru, megis eu heithrio o'r Dreth Gyngor a sefydlu Cronfa Dydd Gŵyl Dewi, a chynigiwyd incwm sylfaenol i roi'r lle i'r garfan hon o bobl ifanc ffynnu tra'n sicrhau eu hanghenion sylfaenol.
Ni fyddai cyflawni'r cynllun peilot hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ymroddedig nifer o weithwyr proffesiynol, yn enwedig y rhai o fewn timau gadael gofal awdurdodau lleol ledled Cymru. Hoffwn achub ar y cyfle i gofnodi fy niolch i bawb sydd wedi cyfrannu at gefnogi'r bobl ifanc sy'n derbyn yr incwm ac sydd wedi cydweithio â rhanddeiliaid allweddol eraill ledled Cymru.
Mae'r datganiad hwn yn nodi diwedd ffurfiol cam gweithredu'r peilot, gan amlinellu'r dulliau o symud ymlaen o'r cynllun peilot ac i barhau â gwaith monitro a gwerthuso.
Symud ymlaen o'r peilot
Roedd gan bawb a oedd yn derbyn incwm sylfaenol eu hamgylchiadau unigol eu hunain i'w hystyried trwy gydol y cynllun peilot ac wrth iddynt agosáu at y cyfnod pan fyddent yn gadael y cynllun peilot.
Gan wybod na fyddai unrhyw ddau brofiad wedi bod yr un peth, cydweithiwyd â thimau gadael gofal awdurdodau lleol, cynghorwyr personol, sefydliadau gofal a'r bobl ifanc eu hunain i osod safon ofynnol ar gyfer cefnogi'r broses o adael y peilot. Roedd y dull hwn yn adeiladu ar waith cynllunio llwybrau a oedd eisioes yn bodoli, ar ffurf trafodaethau rhwng person ifanc a'i Gynghorydd Personol. Yr argymhelliad oedd cynnal y drafodaeth gyntaf heb fod yn hwyrach na chwe mis cyn iddynt adael y peilot.
Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi bod yn cysylltu â'r holl bobl ifanc pan oedd ganddynt chwe mis, tri mis ac un mis ar ôl ar y peilot, i'w hatgoffa o'u dyddiad talu diwethaf a'u hannog i geisio cymorth wrth gynllunio ar gyfer diwedd y peilot.
Monitro a Gwerthuso
Er bod cam gweithredu'r cynllun peilot wedi dod i ben, mae gweithgareddau gwerthuso yn parhau gyda'r bobl ifanc a'u cefnogwyr, a byddant yn dal i wneud hynny tan 2027 pan fydd yr adroddiad gwerthuso terfynol yn cael ei gyhoeddi. Mae'r gwerthusiad annibynnol, dan arweiniad Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd gyda phartneriaid ym Mhrifysgol Rhydychen, Prifysgol Efrog, Coleg y Brenin Llundain, a Phrifysgol Northumbria, wedi bod ar y gweill ers mis Tachwedd 2022 ac mae wedi adrodd yn flynyddol ers 2024. O ganlyniad i weithgareddau gwerthuso, mae gennym fewnwelediad cynnar cyfoethog am brofiadau pobl ifanc a gwell dealltwriaeth o sut y gweithredwyd y peilot, a gyhoeddwyd yn yr adroddiad blynyddol diweddaraf (Mawrth 2025). Mae'n bwysig pwysleisio ein bod yng nghanol y gwerthusiad, ac ni ellir defnyddio'r canfyddiadau cynnar hyn i ddod i gasgliadau ynghylch effaith y peilot neu ddarparu asesiad llawn o sut mae wedi'i weithredu.
Bydd y gwerthusiad yn ystyried ystod o ddangosyddion o effaith y peilot ar y bobl ifanc a gafodd y taliadau a chymdeithas ehangach, a dim ond ar ôl i'r peilot ddod i ben y bydd llawer ohonynt yn dod yn amlwg. Mae'r gwerthusiad yn gymhleth ac mae angen parhau i gasglu a dadansoddi data i ddeall effaith lawn y peilot yn y ffordd orau.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi manylion terfynol ein mewnwelediad ar sail ein data monitro ym mis Awst 2025. Mae'r data hwn, a gynhyrchir trwy wybodaeth reoli'r peilot, wedi darparu tystiolaeth am bobl ifanc y peilot wrth i'r cynllun fynd rhagddo. Bydd yr adroddiad gwerthuso blynyddol nesaf, sydd i'w gyhoeddi yn gynnar yn 2026, yn cynnwys mewnwelediad pellach gan y bobl ifanc eu hunain am eu profiadau ar ôl diwedd y peilot. Bydd adroddiadau pellach a therfynol yn 2027 yn cyflwyno dadansoddiad o'r canlyniadau ar gyfer y rhai a gafodd daliadau'r peilot ac effaith economaidd y peilot arnyn nhw ac ar y gymdeithas ehangach, megis ystyried gwerth am arian.
