Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae cysylltiad agos rhwng cadernid economaidd ac amgylcheddol ein coedwigoedd a’n coetiroedd a’r diwydiannau sy’n gysylltiedig â hwy.  Mae ein coed, coedwigoedd, cloddiau a thirweddau yn asedau cenedlaethol hanfodol sy’n darparu nifer o fuddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Serch hynny maent yn cael eu bygwth ar hyn o bryd gan nifer o afiechydon niweidiol i goed.  

Mae Chalara fraxinea yn bathogen ffwngaidd sy’n achosi clefyd coed ynn. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru, ynghyd â Gweinyddiaethau Datganoledig eraill a Defra wedi datblygu Cynllun Rheoli Chalara newydd i Gymru.  Cafodd y Cynllun Rheoli ei arwain gan bolisi cyffredinol Llywodraeth Cymru ynghylch coedwigaeth, sydd wedi’i seilio ar hierarchaeth glir o flaenoriaethau sydd wedi’u gosod yn Strategaeth Coetiroedd Cymru.  

Yn y tymor byr, mae’r cynigion yn y Cynllun Rheoli yn argymell cymryd camau cymesur, cost effeithiol i leihau lledaeniad Chalara ac i gynorthwyo perchnogion tir a rheolwyr coetiroedd, meithrinfeydd ac eraill i liniaru effaith yr afiechyd. Yn y tymor hir mae’n argymell cynhyrchu a sefydlu poblogaethau cadarnach o goed ynn ac yn hyrwyddo’r angen am goetiroedd addasadwy er mwyn iddynt barhau i ddarparu amrywiaeth eang o fanteision a gwasanaethau.

Nid oes gobaith realistig o ddileu’r afiechyd, felly rhaid rhoi pwyslais cynyddol ar addasu ac adeiladu’n gallu i’w wrthsefyll, yn economaidd ac yn amgylcheddol. Ni fydd effaith llawn Chalara i’w weld am ddegawd o leiaf gan y bydd coed sydd wedi’u heintio’n parhau i oroesi am nifer o flynyddoedd, ond mae tystiolaeth o wledydd Ewropeaidd eraill eisoes wedi dangos effaith posibl yr afiechyd hwn. Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio gyda meithrinfeydd, perchnogion tir, grwpiau amgylcheddol a grwpiau eraill i ddatblygu ffordd fwy strategol o weithio i ddeall effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yr afiechyd, ac i sicrhau cadernid coetiroedd a choed eraill yn y tymor hir, ynghyd â’r cadwyni cyflenwi sy’n eu cefnogi.

Ceir copi o’r Cynllun Rheoli ar wefan Llywodraeth Cymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.