Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rydym yn cyhoeddi diweddariad i'n Cynllun Rheoli’r Coronafeirws, sy'n adeiladu ar y fframwaith cyfyngiadau ‘goleuadau traffig’ a gyflwynwyd yn wreiddiol ym mis Mai. 

Mae’r cynllun wedi’i ddiweddaru yn sefydlu pedair lefel rhybudd, sy'n cyd-fynd â'r mesurau y bydd angen inni eu rhoi ar waith i reoli lledaeniad y feirws yn ystod cyfnod anodd y gaeaf ac i ddiogelu iechyd pobl.

Mae’r cynllun yn esbonio hefyd sut a phryd y bydd Cymru’n symud rhwng y gwahanol lefelau rhybudd hyn. Mae'r mesurau hyn ar gyfer Cymru gyfan wedi'u cynllunio i fod mor syml, mor deg ac mor glir â phosibl a byddant yn rhoi mwy o sicrwydd i bobl a busnesau ynghylch pa gyfyngiadau cyfreithiol fydd yn cael eu cyflwyno, yn dibynnu ar lefel y risg, gan eu helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Yn dilyn cyngor Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE), mae ein dull gweithredu wedi’i seilio ar yr hyn sydd wedi gweithio mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ynghyd â’r hyn yr ydym ninnau wedi’i ddysgu yn ystod y flwyddyn.

Dyma’r pedair lefel rhybudd:

  • Lefel rhybudd 1 (risg isel): Dyma’r lefel cyfyngiadau agosaf at normalrwydd sy’n bosibl tra mae cyfraddau heintio yn isel a mesurau ataliol eraill yn parhau ar waith, megis cadw pellter cymdeithasol a gweithio gartref.
  • Lefel rhybudd 2 (risg ganolig): Mae’r lefel hon yn cynnwys mesurau rheoli ychwanegol i gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws. Gall y rhain gael eu hategu gan gamau gweithredu lleol wedi’u targedu’n fwy, a roddir ar waith i reoli achosion lluosog neu frigiadau penodol.
  • Lefel rhybudd 3 (risg uchel): Dyma’r cyfyngiadau llymaf heblaw am gyfnod atal byr neu gyfnod clo. Maent yn ymateb i lefelau heintio uwch neu gynyddol lle nad yw camau gweithredu lleol yn effeithiol mwyach o ran cyfyngu ar dwf y feirws.
  • Lefel rhybudd 4 (risg uchel iawn): Byddai cyfyngiadau ar y lefel hon yn cyfateb i reoliadau’r cyfnod atal byr neu’r cyfnod clo. Gellid defnyddio’r rhain naill ai fel cyfnod atal byr neu fel cyfnod clo.

Rydym yn ddiolchgar i bobl a busnesau ledled Cymru am eu hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â'r feirws hwn.

Wrth inni ddechrau'r broses o gyflwyno'r brechlyn COVID-19, gallwn fod yn obeithiol am y dyfodol, ond rhaid inni barhau i fod yn ofalus a chymryd camau i reoli lledaneiad y coronafeirws a chadw’n gilydd yn ddiogel.

Mae angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd i Gadw Cymru'n Ddiogel.