Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 13 Rhagfyr 2017, cyhoeddais y byddai £5 miliwn o gymorth ychwanegol ar gael i ymestyn ein cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr am un flwyddyn arall i 2018-19.

Mae'r cynllun hwn yn unigryw i Gymru a bydd yn cefnogi tua 13,000 o fusnesau bach a chanolig ar hyd a lled y wlad yn ystod 2018-19. Caiff ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Ar gyfer 2018-19, bydd y cynllun yn rhoi cymorth ariannol o hyd at £750 i filiau ardrethi annomestig busnesau cymwys sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000.

Bydd talwyr yr ardrethi hynny a fydd yn elwa ar y rhyddhad yn cynnwys y rhai sydd â safleoedd manwerthu mewn defnydd ar y stryd fawr megis siopau, bwytai, caffis, tafarnau a bariau gwin.

Er mwyn manteisio i'r eithaf ar swm y cymorth y gellir ei ddarparu ac i sicrhau y caiff ei dargedu at yr ardaloedd a’r busnesau hynny y mae’r ailbrisiad yn 2017 wedi effeithio arnynt, bydd dwy haen rhyddhad y cynllun yn parhau.

Bydd yr haen gyntaf yn berthnasol i fanwerthwyr cymwys y stryd fawr sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 sy'n cael naill ai rhyddhad ardrethi busnesau bach (SBRR) neu ryddhad ardrethi trosiannol.

Bydd talwyr yr ardrethi hyn yn cael gostyngiad o £250 yn eu bil ardrethi, ac eithrio lle y byddai hyn yn lleihau eu bil i lai na sero – yn yr achosion hyn bydd talwyr yr  ardrethi yn cael disgownt sy’n gyfartal â swm y rhwymedigaeth sy'n weddill.

Bydd yr ail haen o ryddhad yn berthnasol i fanwerthwyr cymwys y stryd fawr â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £50,000 a welodd gynnydd yn eu  rhwymedigaeth ardrethi annomestig ar 1 Ebrill 2017. Bydd talwyr yr ardrethi hyn yn cael gostyngiad yn eu bil ardrethi o hyd at £750.

Mae’r lefel uwch hon o gymorth yn adlewyrchu'r ffaith nad oes gan y busnesau hyn yr hawl i gael ffynonellau eraill o ryddhad a ariennir gan y Llywodraeth megis SBRR, a’u bod yn wynebu cynnydd sylweddol yn eu rhwymedigaeth ardrethi o ganlyniad i ailbrisiad a gyflawnwyd yn annibynnol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Mae targedu cymorth yn y modd hwn yn golygu y bydd ar gael i fusnesau cymwys a welodd gynnydd yn eu rhwymedigaeth yn 2017, yn ogystal ag i’r busnesau hynny ar y stryd fawr lle mae ardrethi’n  gostwng ond sy’n ei chael yn anodd o ganlyniad i’r amodau economaidd a’r gystadleuaeth gan ddarparwyr ar-lein a'r tu allan i'r dref.

Mae fy swyddogion wedi bod yn cydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol i sicrhau bod y rhyddhad yn cael ei weithredu'n effeithiol ac y bydd y rheini sy’n gymwys yn cael gwybod am eu hawl.

Bydd y cynllun estynedig hwn, ynghyd â’n penderfyniad i ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach sy'n werth £100m i  2018-19 a darparu cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol tair blynedd o fis Ebrill 2017, yn cynnig cymorth hanfodol i dalwyr yr ardrethi ledled Cymru.

Nodyn Technegol


Mae'r meini prawf ar gyfer busnesau cymwys wedi'u rhestru isod:
  1. Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i werthu nwyddau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw. 
  2. Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i ddarparu'r gwasanaethau manwerthu i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw. 
  3. Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i werthu bwyd a/ neu ddiod i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw.

Ni fydd y rhyddhad yn cynnwys:
  1. Hereditamentau â phrisiad dros £50,000.
  2. Hereditamentau nad ydynt yn rhesymol hygyrch i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw. 
  3. Hereditamentau sydd mewn parciau manwerthu neu ystadau diwydiannol y tu allan i'r dref. 
  4. Hereditamentau gwag.
  5. Hereditamentau sy'n cael rhyddhad ardrethi elusennol gorfodol.