Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd gofalwyr di-dâl o bob oed yng Nghymru yn elwa o gronfa gwerth £9m er mwyn sefydlu cynllun seibiant byr cenedlaethol newydd.

Bydd y buddsoddiad tair blynedd o hyd yn cynyddu’r cyfleoedd i ofalwyr di-dâl i gael seibiant o’u rôl gofalu, yn ogystal â chyflawni un o ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu.

Gwasanaeth, cefnogaeth neu brofiad yw seibiant byr sy’n helpu i ofalwyr di-dâl i gael amser i ffwrdd o’u cyfrifoldebau gofalu. Gallai hyn fod yn gyfle i fynd i’r gampfa, dysgu sgil newydd neu leddfu straen drwy fynd am dro neu ddarllen llyfr. Gall seibiant byr hefyd fod yn amser i ffwrdd o’r cartref gyda theulu neu ffrindiau a gallai hefyd gynnwys treulio amser gyda’r person y maent yn ei gefnogi neu’n gofalu amdano.

Mae gofalwyr di-dâl wedi rhannu â mi yn gyson bod cael seibiant yn eu helpu i ymdopi â’r pwysau sy’n deillio o’u cyfrifoldebau gofalu. Mae eu profiadau yn ystod y pandemig wedi amlinellu’r angen brys am fodel newydd, arloesol o opsiynau seibiannau byr ar gyfer gofalwyr di-dâl ymhellach.

Nod y cynllun newydd hwn yw trawsnewid y modd y mae gofalwyr di-dâl yn cael gafael ar gefnogaeth seibiant byr yng Nghymru.

Mae rhywfaint o gynlluniau seibiant byr gwych ar waith mewn rhai ardaloedd eisoes, fodd bynnag, mae’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl fanteisio ar gefnogaeth seibiant byr yn anghyson ledled Cymru. Er mwyn cefnogi’r gwaith o roi model llwyddiannus ar waith, rwyf wedi comisiynu NEWCIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru) i ddatblygu pecyn cymorth ac adnoddau sy’n seiliedig ar ei model o gynllun seibiant byr yn y gogledd sydd wedi ennill sawl gwobr. Bydd hyn yn galluogi i ragor o ofalwyr di-dâl ledled Cymru i gael gafael ar y seibiant mwyaf addas iddyn nhw, ar yr adeg iawn.

Y flwyddyn ddiwethaf, comisiynais Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a phrifysgolion Bangor ac Abertawe i archwilio’r opsiynau ar gyfer gweledigaeth newydd ynghylch seibiannau byr yng Nghymru. Cyhoeddwyd eu hadroddiad dilynol What a Difference a Break Makes’ ym mis Awst 2021. Ystyriodd fy Ngrŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl argymhellion yr adroddiad ac mae eu cyngor arbenigol wedi llywio datblygiad y cynllun newydd.

Bydd sefydliadau’r trydydd sector yn cael eu gwahodd i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb ar gyfer rôl corff cydgysylltu cenedlaethol er mwyn sefydlu a goruchwylio’r cynllun seibiant byr. Bydd y corff cydgysylltu yn cydweithio â’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, awdurdodau lleol a’r trydydd sector ledled Cymru er mwyn annog arloesi a hyrwyddo arferion da.

Yn ogystal, bydd y corff cydgysylltu cenedlaethol yn sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael cyfleoedd cyfartal i ddefnyddio ystod o opsiynau addas i’w cefnogi i gael seibiant sy’n diwallu eu hanghenion. Un o egwyddorion craidd y cynllun yw bod unigolion yn cael eu gweld a bydd y ffocws ar gyflawni’r canlyniadau personol sy’n bwysig i ofalwyr di-dâl.

Byddaf yn rhoi diweddariadau pellach wrth i’r gwaith o sefydlu’r cynllun nodedig fynd rhagddo. Drwy gydweithio, rwy’n hyderus y gallwn gefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed, o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru i gael seibiant gwerthfawr o’u cyfrifoldebau gofalu.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe byddai'r aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.