Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Wrth inni ddechrau blwyddyn academaidd newydd, gan groesawu athrawon, arweinwyr a staff cymorth newydd, hoffwn roi diweddariad ar sut rydym yn cefnogi'r proffesiwn. Rwy'n llwyr werthfawrogi'r heriau y mae ein gweithlu yn eu hwynebu ac rwy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid i wneud gwelliannau. Mae llwyddiant ein system addysg yn dibynnu ar weithlu o ansawdd uchel, ac mae'n hanfodol ein bod yn darparu'r gefnogaeth a'r amodau gorau iddynt.
Mae gwaith i ddatblygu'r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg yn mynd rhagddo. Bydd y cynllun yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer cefnogi gweithlu'r ysgol mewn pedwar maes allweddol:
- Cefnogi ein gweithlu i sicrhau addysgu a dysgu o safon i wella deilliannau i ddysgwyr
- Mynd i'r afael â materion llwyth gwaith
- Ymateb i heriau newydd i weithlu'r ysgol a sicrhau mynediad at gymorth drwy weithlu arbenigol
- Sicrhau bod addysgu, arweinyddiaeth a swyddi staff cymorth yn parhau i fod yn llwybrau gyrfa deniadol
Bydd llesiant staff yn ystyriaeth allweddol ym mhob un o'r pedwar maes.
Rwyf eisoes wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â nifer o gamau gweithredu i gefnogi'r gweithlu, a heddiw rwyf hefyd yn falch o amlinellu cynnydd mewn sawl maes. Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Fforwm Partneriaeth Cyflog ac Amodau Athrawon i ddatblygu'r cynigion i symud Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol i'r raddfa gyflog arweinyddiaeth yn dilyn yr ymgynghoriad cychwynnol yn ystod tymor yr haf. Rwy'n bwriadu gwneud cyhoeddiad pellach ar y gwaith hwn maes o law. Hefyd, rwyf wedi rhoi cydnabyddiaeth i waith pwysig arweinwyr ysgolion a'r pwysau sydd arnynt drwy ofyn i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC) ystyried pa newidiadau y gellid eu gwneud i amodau gwasanaeth arweinwyr. Edrychaf ymlaen at ddarllen adroddiad CACAC ar y rhan honno o'r cylch gwaith yn ddiweddarach yn yr hydref. Yn y cyfamser, rwyf wedi ysgrifennu at gyfarwyddwyr addysg i'w hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau bod arweinwyr yn cael amser i ffwrdd o'r gwaith ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol. Edrychaf ymlaen hefyd at weld deilliannau gan y Grŵp Cydlynu Llwyth Gwaith Strategol cyn bo hir, a fydd yn llywio ein cynlluniau i'r dyfodol.
Wrth inni ddatblygu'r cynllun ymhellach, fy mhrif flaenoriaethau fydd gweithio gyda'n partneriaid cymdeithasol a'n rhanddeiliaid i wneud y canlynol:
- cytuno sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'm hymrwymiad i wella cyflog ac amodau i'n staff cymorth, sy'n chwarae rhan hanfodol yn ein hysgolion
- cydweithio ar ddatrysiadau i'n heriau recriwtio a chadw staff, yn enwedig athrawon uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg. Bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth fanwl o sut y gallwn wella cefnogaeth i athrawon drwy addysg gychwynnol i athrawon a'u blynyddoedd cyntaf o addysgu
- datblygu ein cynigion ar gyfer cwmpasu absenoldeb athrawon, sy'n faes cymhleth oherwydd yr amrywiaeth o wahanol ffyrdd sydd gan awdurdodau lleol o ddod o hyd i staff cyflenwi
Bydd manylion y cynllun yn parhau i gael eu datblygu gyda'r proffesiwn, awdurdodau lleol/cyrff llywodraethu fel y cyflogwyr, undebau gweithlu addysg a'n partneriaid allweddol dros y misoedd nesaf. Byddaf hefyd yn ystyried ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Recriwtio a Chadw Athrawon, gyda’r nod o gyhoeddi'r cynllun yn ystod tymor y gwanwyn.
Yn olaf, dros yr haf, roeddwn yn falch o gyhoeddi bod Dr Gwenllian Lansdown Davies wedi'i phenodi yn Brif Weithredwr y corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth cenedlaethol newydd. Bydd yn dechrau yn ei rôl ym mis Tachwedd. Enw'r corff fydd Dysgu, gan gydnabod bod angen cefnogaeth barhaus ar ein gweithlu addysg i ddatblygu drwy gydol eu gyrfaoedd i sicrhau'r deilliannau gorau i'n dysgwyr. Bydd Dysgu, sydd bellach yn weithredol, yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am fy mlaenoriaethau cenedlaethol allweddol ar gyfer lleoliadau ac ysgolion a gynhelir. Mae'r rhain yn cynnwys llythrennedd, rhifedd a llesiant, ochr yn ochr â rhaglenni newid hirdymor gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol a gwella addysgu'r Gymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg, a'n rhaglenni arweinyddiaeth ymarferwyr.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
