Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi'r Cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg mewn ysgolion, sy'n nodi rhaglen weithredu system gyfan i gryfhau a chefnogi'r gweithlu ysgolion.
Mae'r Cynllun yn amlinellu gweledigaeth a rennir ar gyfer datblygu proffesiwn hyderus a gwydn sy'n cael ei gefnogi'n dda, gan ymateb yn uniongyrchol i adborth gan ymarferwyr, undebau llafur, awdurdodau lleol a phartneriaid, yn ogystal ag adroddiad diweddar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar recriwtio a chadw athrawon.
Ar ôl bod yn yr Uwchgynhadledd Ryngwladol ar y Proffesiwn Addysgu yn Estonia yn ddiweddar, a gynhaliwyd gan yr OECD, Llywodraeth Estonia, Undeb Personél Addysg Estonia ac Education International, rwy'n hyderus bod y Cynllun yn un blaengar ac yn cyd-fynd ag arferion effeithiol rhyngwladol. Yn ystod yr Uwchgynhadledd, a gynhaliwyd rhwng 9 -11 Mawrth, cymerais ran mewn sgyrsiau agored gyda gweinidogion addysg, arweinwyr undebau ac arweinwyr addysg. Trafodwyd y ffyrdd mwyaf effeithiol o wella'r proffesiwn addysgu er mwyn datgloi potensial pob dysgwr.
Mae cynorthwywyr addysgu yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi addysgu a dysgu yn ein hysgolion a'n lleoliadau. Rwyf eisoes wedi amlinellu fy mhryderon am eu cyflog a'u hamgylchiadau. Felly, rwy'n falch iawn o ddweud ein bod yn gwneud cynnydd yn y maes hwn ac wedi cytuno â'n partneriaid cymdeithasol i symud yr holl gynorthwywyr addysgu Lefel 1 presennol i Lefel 2 a pheidio â defnyddio rolau cynorthwyydd addysgu Lefel 1 ar gyfer cyflogi cynorthwywyr addysgu o fis Medi 2026 ymlaen. Dyma'r cam cyntaf tuag at y nod hirdymor o sicrhau cyflog ac amodau tecach i bob cynorthwyydd addysgu. Hefyd, rwy'n falch o nodi bod gwaith paratoi eisoes wedi dechrau ar gynigion i sefydlu Corff Negodi Staff Cymorth Ysgolion.
Nid yw gwneud gwaith i gefnogi arweinyddiaeth gref ac effeithiol yn ein hysgolion erioed wedi bod yn bwysicach. Ym mis Medi 2025, ysgrifennais at gyfarwyddwyr addysg i'w hatgoffa o'u dyletswyddau o dan y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ac o bwysigrwydd sicrhau bod arweinwyr yn cael amser i ffwrdd o'r gwaith ar benwythnosau a dros wyliau ysgol. Rwy'n ailadrodd hyn ac rwy'n disgwyl iddo fod yn rhan o gynllunio awdurdodau lleol ac ysgolion ar gyfer gweddill y flwyddyn academaidd hon a thu hwnt. Rwyf wedi gofyn i swyddogion gydweithio â'n partneriaid cymdeithasol i baratoi cynigion manwl, i'w hystyried ar ôl etholiad y Senedd, ar gyfer gwneud newidiadau i'r Ddogfen i ddiogelu mwy ar wyliau di-dor arweinwyr o flwyddyn academaidd 2026/27 ymlaen. Bydd y gwaith hwn yn ychwanegu at adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw.
Rwyf hefyd yn falch o adrodd ein bod wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen mewn partneriaeth â'n partneriaid cymdeithasol i ddatblygu cynigion ar gyfer cwmpasu absenoldeb athrawon. Mae hwn yn faes cymhleth ac mae angen i ni weithio gyda'n hawdurdodau lleol i ddatblygu dull cynaliadwy gyda'r nod o sicrhau parhad i ddysgwyr.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi ein hymateb i ddau ymgynghoriad diweddar sy'n effeithio ar weithlu ysgolion. Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn i'r cynnig i wneud y diwrnod HMS ychwanegol, sydd wedi'i ddarparu ers 2019, yn barhaol. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion baratoi rheoliadau fel y gellir gwneud y newid hwn cyn y flwyddyn academaidd sy'n dechrau ym mis Medi 2026, yn amodol ar benderfyniad terfynol y Gweinidog ar ôl etholiad y Senedd.
Roedd ymatebwyr hefyd yn cefnogi diwygiadau i'r safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth, a fydd yn cefnogi ymarferwyr i nodi eu hanghenion datblygu. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i lywio cynlluniau gwella ysgolion a chynnig dysgu proffesiynol Dysgu.
Heddiw, mae Dysgu wedi cyhoeddi ei Weledigaeth Strategol cyntaf, sy'n garreg filltir arwyddocaol i'r sefydliad, a fydd yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni camau allweddol o'r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg mewn Ysgolion. Hoffwn ddiolch i staff ac aelodau'r Bwrdd Dysgu am eu gwaith dros y misoedd diwethaf i gychwyn y sefydliad ac i ddatblygu rhai o'n blaenoriaethau dysgu proffesiynol allweddol. Rwyf hefyd yn cyhoeddi llythyr cyllido 2026-27 ar gyfer Dysgu, sy'n nodi'r meysydd gweithgarwch lle bydd yn datblygu ac yn darparu dysgu a chefnogaeth broffesiynol. Bydd y gwaith o reoli wyth grant rhaglen gymorth y Cwricwlwm i Gymru mewn perthynas â llythrennedd a rhifedd yn trosglwyddo i Dysgu o 1 Ebrill 2026, a bydd Dysgu yn cynnig rhaglenni i fynd i'r afael â blaenoriaethau fel ADY, AI ac offer digidol, yr iaith Gymraeg, cynhwysiant a lles.
Bydd cyflawni'r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg mewn Ysgolion yn gofyn am gydweithrediad parhaus ar draws y system gyfan. Rwy'n ddiolchgar i'n partneriaid—awdurdodau lleol, undebau'r gweithlu addysg, Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg, Dysgu, prifysgolion a sefydliadau'r trydydd sector—y mae eu mewnwelediad a'u harweinyddiaeth wedi llunio'r cynllun hwn ac a fydd yn hanfodol wrth ei weithredu.
Yn anad dim, llwyddiant y cynllun hwn fydd sut mae’n galluogi ymarferwyr i ddiwallu anghenion dysgwyr yn ein hysgolion a'n lleoliadau. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn adeiladu gweithlu sy'n hyderus, yn cael ei werthfawrogi ac yn barod ar gyfer y dyfodol; gweithlu sydd wedi'i arfogi i gefnogi pob dysgwr i gyrraedd ei botensial; a phroffesiwn sy'n un o'r rhai mwyaf bywiog ac uchel ei barch yng Nghymru.
Rydym yn ffodus i gael gweithlu eithriadol yn ein hysgolion a'n lleoliadau ac rwy'n edrych ymlaen at gydnabod eu llwyddiant yn y digwyddiad i Ddathlu Athrawon Cymru yn y Senedd heno.
