Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn ddiweddaru Aelodau'r Senedd am nifer y taliadau BPS ymlaen llaw a fydd yn cael eu gwneud yfory, 14 Hydref.

Bydd 97% o hawlwyr yn cael taliad BPS ymlaen llaw gwerth 70% o werth amcangyfrifedig eu hawliad. Bydd dros £161 miliwn yn cael ei dalu i fwy na 15,600 o fusnesau fferm Cymru.

Dyma'r ail flwyddyn i Taliadau Gwledig Cymru (RPW) wneud taliadau BPS ymlaen llaw yn awtomatig cyn mis Rhagfyr yn dilyn symleiddio gofynion BPS, sy'n rhoi sicrwydd ariannol i’n fusnesau fferm yng Nghymru yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.

Bydd taliadau llawn a thaliadau gweddill balans BPS 2022 yn cael eu gwneud o 15 Rhagfyr 2022 ymlaen, a hynny’n amodol ar ddilysu'r hawliad BPS yn llawn. Mae RPW unwaith eto yn bwriadu gwneud y taliadau hyn i gymaint o ffermwyr â phosibl yn gynnar yn ystod y cyfnod talu.

Rwy'n disgwyl y bydd yr holl hawliadau BPS, ar wahân i’r rhai mwyaf cymhleth, yn cael eu dilysu'n llawn, a’r taliadau yn cael eu gwneud cyn diwedd y cyfnod talu ar 30 Mehefin 2023.