Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) eleni a'r flwyddyn nesaf cyn i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) ddechrau yn 2026. 

Heddiw, mae mwy na 95% o hawlwyr wedi derbyn eu taliad llawn neu eu hail daliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2025. Mae dros 15,400 o fusnesau fferm yng Nghymru wedi cael taliadau gwerth £68.7m, yn ogystal â gwerth £160m o ragdaliadau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol sydd wedi'u talu ers 14 Hydref.  

Bydd fy swyddogion yn parhau i brosesu hawliadau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2025 nad ydynt wedi'u talu cyn gynted â phosibl ac rwy'n disgwyl i bob un ond yr achosion mwyaf cymhleth gael eu cwblhau erbyn 30 Mehefin 2026. 

Cynllun y Taliad Sylfaenol 2025 yw'r flwyddyn olaf ar gyfer taliadau llawn o dan y Cynllun. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais y byddai Cynllun y Taliad Sylfaenol yn cael ei ddileu'n raddol o 2026 ymlaen wrth i ni lansio a chyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd y flwyddyn nesaf.

Fel rydw i wedi dweud erioed, mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd o safon yn gynaliadwy. Mae hyn yn cael ei ddangos heddiw wrth i ni ddyrannu taliadau balans o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2025 a bydd yn parhau drwy gydol y cyfnod pontio wrth i ni gyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar 1 Ionawr 2026.