Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lansiodd Llywodraeth Cymru y cynllun taliadau cymorth o £500 ym mis Tachwedd 2020 i helpu pobl y gofynnwyd iddynt hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu.  Heddiw rwy'n ymestyn y Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu i gynnwys y rhai y gofynnwyd iddynt hunanynysu fel cyswllt agos gan Ap Covid-19 y GIG. 

Mae defnyddwyr Ap Covid-19 y GIG bellach yn gymwys i wneud cais am y taliad o £500 os byddant yn cael hysbysiad eu bod wedi dod i gysylltiad â’r feirws, os ydynt ar incwm isel ac mewn perygl o galedi ariannol. Ers ei lansio, rydym eisoes wedi ehangu'r cynllun i gynnwys rhieni a gofalwyr plant y gofynnir iddynt hunanynysu oherwydd achosion mewn lleoliad addysgol. Mae'r estyniad pellach hwn yn cefnogi ein hymrwymiad i adolygu'r cynllun yn gyson a sicrhau ein bod yn rhoi cymorth ariannol i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

Rwy'n ymestyn y cynllun i ddefnyddwyr Ap Covid-19 y GIG o dan y meini prawf canlynol:

  • Gofynnwyd iddynt hunanynysu gan eu bod wedi dod i gysylltiad â Covid-19
  • Maent yn bodloni meini prawf y prif gynllun, sef eu bod:
    • yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig;
    • yn methu gweithio gartref a byddant yn colli incwm o ganlyniad; a
    • (yr ymgeisydd neu ei bartner) ar hyn o bryd yn derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn; neu
  • Derbyniwyd y cais o dan elfen ddewisol y cynllun.

Bydd system ddigidol ar waith cyn bo hir ond hyd nes y bydd hynny ar gael mae proses dros dro wedi'i datblygu i bob awdurdod lleol brosesu ceisiadau gan ddefnyddwyr Ap Covid-19 y GIG. Bydd awdurdodau lleol yn gallu prosesu ceisiadau o ddydd Gwener 5 Chwefror ac fe fydd modd ôl-hawlio o ddyddiad y cyhoeddiad heddiw.

Byddaf yn parhau i adolygu'r cynllun er mwyn sicrhau bod y rhai mwyaf anghenus yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i hunanynysu a lleihau achosion o drosglwyddo.