Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi 

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n cyhoeddi heddiw Gynllun Trydydd Sector diwygiedig Llywodraeth Cymru ac yn gosod copi’n ffurfiol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Cynllun y Trydydd Sector yw ein prif fframwaith polisi ac mae’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector yng Nghymru wedi’i seilio arni.  Mae’n disgrifio bwriadau Llywodraeth Cymru o ran datblygu’r berthynas honno.  Adran 74 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 sy’n rhoi’r fframwaith deddfwriaethol i’r polisi hwn.

Ym mis Ionawr 2013, cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau bryd hynny mewn Datganiad Ysgrifenedig ei fwriad i adfywio’r berthynas bwysig hon.  Cyhoeddwyd y ddogfen ymgynghori - Parhad a Newid: Adnewyddu'r Berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector yng Nghymru – ym mis Mai.  Yn dilyn ymgynghoriad a barodd 12 wythnos ac a ysgogodd gryn ymateb, gwneuthum ddatganiad yn y Cynulliad ar 12 Tachwedd ynghylch y canlyniadau.  Cafwyd cadarnhad trwy’r ymgynghoriad bod angen adolygu Cynllun y Sector Gwirfoddol (2004) a’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector (2009) i’w gwneud yn addas a chyfoes. 
Yn y gorffennol, roedd y ddwy ddogfen yn cael eu cyhoeddi ar wahân.  Maent yn awr wedi’u cysylltu’n ffurfiol, gyda’r Cod Ymarfer bellach yn Atodiad i’r Cynllun.  Ein hamcan yn hynny o beth yw cryfhau a chrisialu’r cysylltiadau rhwng y Cynllun (sy’n disgrifio egwyddorion sylfaenol Llywodraeth Cymru wrth weithio â’r Trydydd Sector), a’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu (sy’n esbonio’r egwyddorion a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru wrth ariannu’r Trydydd Sector).

Mae’r Cynllun gan gynnwys y Cod Ymarfer a gyhoeddir heddiw wedi’u datblygu ar y cyd ag ystod eang o randdeiliaid, yn bennaf trwy Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) a’r rhwydweithiau a gynrychiolir gan ei aelodau a rhoddwyd ystyriaeth lawn hefyd i’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad y llynedd.  Rwy’n disgwyl felly i’r fframwaith strategol hwn oroesi a gosod sylfeini cadarn ar gyfer ein cydweithio â’r Trydydd Sector am flynyddoedd mawr i ddod.

Mae’r Cynllun yn disgrifio’n gweledigaeth a’n gwerthoedd cytûn sy’n sail i’r berthynas hon.  Mae’n amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru’n ymgysylltu â’r Trydydd Sector, gan gynnwys y TSPC ac yn tanlinellu’n hymrwymiad cytûn i gefnogi cymunedau ac annog gwirfoddoli.

Mae’r Cynllun diwygiedig yn disgrifio hefyd sut yr ydym yn defnyddio isadeiledd integredig Cymru gyfan i gefnogi’r Trydydd Sector.  Mae Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector ill dau’n cydnabod yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaethau cyhoeddus ac nad trwy’r wladwriaeth yn unig y daw ansawdd bywyd.  Rwy’n gobeithio y gwelwn gyrff cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt yn uniaethu â’r bwriadau yng Nghynllun y Trydydd Sector ac yn eu defnyddio i borthi’u cysylltiadau rhanbarthol a lleol.  

Mae’r Cod Ymarfer diwygiedig ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn rhan annatod o’r Cynllun. Mae’n seiliedig ar 17 o Egwyddorion sy’n cael eu disgrifio’n fanylach na chynt.  Mae’r Cod yn darparu gwybodaeth hefyd ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru’n mynd ati i ariannu, gydag adrannau ynddo am Gomisiynu, Grantiau a Chaffael.  Mae’r Cynllun yn berthnasol i fwy na’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a mudiadau’r Trydydd Sector sy’n derbyn nawdd uniongyrchol.

Wrth reswm, nid diwedd y broses yw cyhoeddi Cynllun y Trydydd Sector a’r Cod Ymarfer heddiw.  Byddwn yn dal ati i gydweithio’n glos â’r Trydydd Sector i godi ymwybyddiaeth am y dogfennau hyn a thynnu sylw at eu perthnasedd i amrywiaeth eang iawn o fudiadau, cyrff ac unigolion ar draws pob sector.  Mae’r gwaith wedi dechrau eisoes i ledaenu rhai o negeseuon canolog y Cynllun.  Un o’r prif flaenoriaethau dros y flwyddyn i ddod fydd symud at weithio’n rhanbarthol ar lefel fwy ffurfiol, gan ddefnyddio’r Isadeiledd.  Mae’r ddeialog hon eisoes wedi cychwyn. Hefyd, rydym yn gweithio trwy’r TSPC i sicrhau bod mecanweithiau ymgysylltu, fel y TSPC ei hun a chyfarfodydd Gweinidogion â’r sector, yn canolbwyntio fwyfwy ar ganlyniadau.

Rwy’n gobeithio yn arbennig y gwnaiff awdurdodau lleol, byrddau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill nodi’r Cynllun a’r Cod Ymarfer a’u defnyddio i ddatblygu a chryfhau eu Compactau Lleol â’r Trydydd Sector.  Rydym yn barod i weithio â nhw i gefnogi’r broses ac i ddatblygu arweiniad gyda’n gilydd a monitro’r Compactau’n well yn y dyfodol.