Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae’r sefyllfa sy’n parhau yn Gaza yn annioddefol i’r miliynau o Balestiniaid sy’n byw yno. Rwy’n ailadrodd galwadau Prif Weinidog Cymru am gadoediad ar unwaith, gan gydnabod yr effeithiau dinistriol y mae’r rhyfel yn eu cael ar y boblogaeth, gan gynnwys plant sydd angen gofal iechyd arbenigol.
Cyhoeddodd Prif Weinidog y DU ym mis Gorffennaf y bydd y DU yn cefnogi cludo plant Gaza mewn argyfwng meddygol sydd angen triniaeth ar fyrder. Bydd Cymru yn chwarae ei rhan ac rwy’n falch o gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yng Nghynllun y DU ar gyfer Cludo Cleifion mewn Argyfwng Meddygol o Gaza.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda llywodraethau eraill y DU i benderfynu sut y bydd y cynllun yn gweithredu. Mae hyn, yn anorfod felly, yn broses sensitif a chymhleth – proses y mae’r GIG a’r awdurdodau lleol yn rhan ohoni. Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i gefnogi’r plant hynny sydd angen triniaeth feddygol a’u teuluoedd, pan fydd gennym y capasiti angenrheidiol ac y byddwn yn gallu diwallu eu hanghenion. Dim ond nifer fach o blant sy’n debygol o ddod i Gymru i dderbyn triniaeth. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Senedd am y cynnydd a wneir ar y mater hwn pan fydd y manylion wedi’u cadarnhau.
Fel y mae ardaloedd eraill o’r DU, rydym yn parhau i bwyso am gadoediad ar unwaith yn Gaza ac rydym yn gobeithio y gellir sicrhau heddwch parhaol.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
