Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy natganiad llafar ar 19 Hydref, mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gyhoeddi Cynllun y Gaeaf ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2021-22.

Gellir gweld copi o'r cynllun drwy’r ddolen hon:

https://llyw.cymru/cynllun-y-gaeaf-ar-gyfer-iechyd-gofal-cymdeithasol-2021-i-2022

Mae’r cynllun hwn wedi’i ddatblygu gan ymgynghori â phartneriaid iechyd a gofal, yn dilyn misoedd o gynllunio, er mwyn gwella gwytnwch ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan fod disgwyl i’r gaeaf hwn fod yn un heriol dros ben.

Rydym yn disgwyl gaeaf arbennig o anodd oherwydd y rhagolygon y bydd yr achosion o COVID yn parhau ac y bydd hi hefyd yn flwyddyn waeth ar gyfer y ffliw a feirysau eraill y gaeaf am fod imiwnedd y boblogaeth yn isel. Rydym hefyd yn ceisio lleihau niwed arall oherwydd COVID drwy gynnal ffocws cryf ar ein gwasanaethau hanfodol a gweithio i leihau'r ôl-groniad o gleifion sy'n aros am driniaethau wedi’u cynllunio. Mae’r rheini wedi cronni oherwydd y mesurau diogelwch a gyflwynwyd yn ystod y pandemig.

Mae lle canolog yn y cynllun hwn i ddiogelwch cleifion ac i les. Drwy weithgareddau ataliol i gadw pobl yn iach, byddwn yn lleihau'r angen am ofal brys ac argyfwng ac yn ceisio lleihau'r pwysau ar y GIG. Mae hyn yn cynnwys parhau â'n rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu a chynnal rhaglen frechu ar gyfer ffliw tymhorol.

Fodd bynnag, bydd yr amrywiadau yng nghyfraddau COVID a’r pwysau oherwydd afiechydon eraill y gaeaf yn golygu y bydd y system iechyd a gofal cymdeithasol yn addasu’r cydbwysedd ac yn ailflaenoriaethu yn gyson y gaeaf hwn er mwyn defnyddio ei hadnoddau i drin y cleifion mwyaf sâl a’r achosion mwyaf brys. Ar adegau, gallai hyn olygu penderfyniadau anodd i leihau gweithgarwch gofal wedi'i gynllunio, ond bydd ein Gwasanaeth Iechyd yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddarparu cymorth i gleifion tra byddant yn aros am eu triniaethau.

Mae gweithwyr y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol wedi gweithio gydag ymroddiad a thosturi a gwyddom eu bod yn flinedig iawn, felly un o brif flaenoriaethau'r cynllun hwn yw parhau â'n camau gweithredu i helpu i recriwtio a chadw'r gweithlu ac i roi cefnogaeth i staff.

Mae'r cynllun yn galw am gydweithio gan ein gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau'r defnydd gorau o'n hadnoddau, yn enwedig ein gweithlu, ac yn galw hefyd ar y cyhoedd i wneud eu rhan y gaeaf hwn i fanteisio ar gyfleoedd i gadw'n iach, gan gynnwys derbyn y cynnig i gael brechiadau ffliw a COVID.

Gan gydnabod yr heriau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol, rydym yn darparu £40m o gyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol i helpu i leddfu'r pwysau o ran gwelyau mewn ysbytai. Daw hyn ar ben y £248m sydd wedi’i gyhoeddi eisoes ar gyfer cronfa i adfer y GIG yn sgil COVID.

Gofynnir i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ddarparu cynllun i ymdrin â'r blaenoriaethau a nodir yng nghynllun y gaeaf, er mwyn diogelu Cymru y gaeaf hwn.

Byddaf yn rhoi diweddariadau pellach i'r aelodau drwy gydol y gaeaf.