Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ein strategaeth genedlaethol newydd, Ffyniant i Bawb, yn cyflwyno ein gweledigaeth ar gyfer sicrhau bod plant o bob cefndir yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Rydym am sicrhau bod ein holl blant yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial llawn a byw bywyd iach, ffyniannus a chyflawn ac yn gallu cyfrannu at lwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol.  

Wrth ddatblygu’r weledigaeth hon, rydym yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae gweithlu’r blynyddoedd cynnar yn ei wneud at gefnogi’n plant i gyrraedd eu potensial llawn. Ein huchelgais yw datblygu gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar hynod fedrus, sy’n gweithio mewn proffesiwn a gaiff ei ystyried fel gyrfa o ddewis, a’i werthfawrogi gan ein cymdeithas am y rôl hanfodol sydd ganddo wrth gefnogi dysgu a datblygiad ein plant.

Er mwyn gwneud cynnydd gyda’n huchelgais, rydym am ddenu’r bobl iawn i ddilyn gyrfa ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar sydd â’r sgiliau i ddarparu cyfleoedd gofal, addysg a chwarae o safon uchel i’n plant. Rydym am i’r sector gofal plant a chwarae allu tyfu’n gynaliadwy a chynnig gofal a chyfleoedd o safon uchel ar gyfer camu ymlaen mewn gyrfa i’w weithlu.  

Heddiw, mae’n bleser gen i gyhoeddi ein cynllun deng mlynedd ar gyfer y gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ein darpariaeth ar dair thema allweddol:            

• Denu newydd-ddyfodiaid newydd o safon uchel i’r sector;
• Codi safonau a gwella sgiliau ar draws y sector;
• Buddsoddi i feithrin gallu a galluogrwydd ar draws y sector i gefnogi twf economaidd a chynaliadwyedd.

Rwyf wedi egluro’r camau y byddwn yn eu cymryd dros ddeng mlynedd, sef oes y cynllun, ond yn y lle cyntaf, rwy’n canolbwyntio ar y camau gweithredu ar gyfer y tymor hwn yn y Cynulliad.

Yn ystod y Cynulliad hwn, byddwn yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer plant tair i bedair oed er mwyn cynorthwyo teuluoedd sy’n gweithio ledled Cymru a’i gwneud hi’n haws i bobl dderbyn swyddi a’u cadw.  

Mae ein tystiolaeth yn dangos i ni fod cost gofal plant yn bryder mawr i rieni sy’n gweithio, ac mae’n effeithio ar ansawdd bywyd teuluoedd. Bydd cyllid y llywodraeth yn helpu i leddfu baich ariannol gofal plant ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio ledled Cymru, gan weithredu fel ysgogydd i gefnogi twf a chynaliadwyedd i ddarparwyr gofal plant.  

Rydym yn cydnabod bod yna sawl her yn wynebu’r sector yn yr hinsawdd economaidd bresennol a bod angen buddsoddi i feithrin gallu a galluogrwydd ar draws y sector. Er mwyn cynorthwyo darparwyr i dyfu a gweithredu’n gynaliadwy, byddwn felly’n rhoi blaenoriaeth i gefnogi’r sector fel yr amlinellir yn ein Cynllun Gweithredu Economaidd a lansiwyd yn gynharach yr wythnos hon.

Mae gwaith i nodi cymorth i fusnes a chymorth gyda sgiliau sy’n mynd i’r afael ag anghenion y sector wedi cychwyn eisoes gyda’r camau canlynol:

Rydym wedi darparu £100,000 sy’n cwmpasu’r cyfnod 17/18; 18/19 a 19/20 i gefnogi’r darparwyr hynny sy’n cymryd rhan yn natblygiad cynlluniau peilot gweithredwyr cynnar y cynnig gofal plant ledled Cymru a’r rhai sy’n ceisio cychwyn neu ehangu busnes er mwyn manteisio ar y cyfleoedd newydd a ddaw yn sgil y cynnig gofal plant.

Rwy’n cyhoeddi’r bwriad hefyd i ehangu’r cynnig gofal plant i ardaloedd pellach o fewn awdurdodau sy’n cynnal cynlluniau peilot gweithredwyr cynnar. Mae ein hadborth cychwynnol o’r cynlluniau peilot wedi bod yn gadarnhaol a bydd lansio cynllun y gweithlu’n gam hollbwysig er mwyn cynorthwyo darparwyr gofal plant i gyfrannu’n llawn at gyflwyno’r cynnig.  

Yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddwyd ein bwriad i gynyddu’r trothwy ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) o £12,000 i £20,500 ym mis Ebrill 2018 er mwyn helpu darparwyr gofal plant i fantoli eu costau gweithredu. Byddwn hefyd yn ceisio parhau i nodi pa gymorth ychwanegol y gellir ei ddarparu o dan y cynllun SBRR, gan gynnwys ystyried Adolygiad Barclay yn yr Alban ar Ardrethi Busnes a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.

Un o gamau allweddol y flwyddyn gyntaf o weithredu fydd cwblhau’r gwaith o ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau ar gyfer y sector yn barod i’w haddysgu ym mis Medi 2019. Bydd y cymwysterau newydd yn cwmpasu lefelau 1 i 5 a byddant yn cynorthwyo ymarferwyr newydd a chyfredol i wella eu sgiliau proffesiynol a chynnig cyfleoedd gwell i gamu ymlaen mewn gyrfa.

Rydym yn cydnabod bod ein cynlluniau’n uchelgeisiol ond maen nhw’n hanfodol os ydym am wella addysg a gofal cynnar ein plant. Mae’r camau uchod yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi’r sector gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â’r camau gweithredu a amlinellir yn y cynllun a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach wrth i’r rhaglen fydd rhagddi yn y flwyddyn newydd.    

http://llyw.cymru/topics/people-and-communities/people/children-and-young-people/early-years/childcare-play-early-years-workforce-plan/?lang=cy