Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mawrth ar ôl pleidlais gan y Cynulliad, gwnes Reoliadau a roddodd rôl newydd i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i gymeradwyo a gorfodi’r cynlluniau ffïoedd a gyflwynir gan sefydliadau yng Nghymru sy’n derbyn arian cyhoeddus ar gyfer addysg uwch.  Bydd sefydliadau’n cael codi ffi dysgu o hyd at £9,000 y flwyddyn ar gyfer cyrsiau addysg uwch o 2012/13, ond er mwyn cael gwneud hynny, bydd yn rhaid iddynt ddangos eu hymrwymiad i hyrwyddo addysg uwch a i gydraddoldeb mynediad at addysg uwch.  Bydd sefydliadau sydd am godi ffi dysgu sy’n uwch na’r swm sylfaenol o £4,000 ar gyfer cyrsiau gradd amser llawn yn gorfod cyflwyno’u cynlluniau ffïoedd i CCAUC eu cymeradwyo.  Rwy’n disgwyl i CCAUC greu trefniadau cadarn ar gyfer asesu cynnwys ac ansawdd cynlluniau ffïoedd.

 

Mae’r penderfyniad i osod ffi dysgu sylfaenol o £4,000 o 2012/13 yn adlewyrchu’r pwys y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar gyfraniad addysg uwch at gyfiawnder cymdeithasol.  Hefyd, rwy’n dal i feddwl bod hyrwyddo addysg uwch yn agwedd sylfaenol ar waith pob sefydliad.  Rwy’n disgwyl i sefydliadau weithio’n adeiladol i gynnal yr agendâu hyn trwy drefniant newydd y cynllun ffïoedd. 

 

Mae cynnwys a hyd y cynlluniau ffïoedd wedi’u pennu gan Reoliadau Ffïoedd Myfyrwyr (Cynlluniau Cymeradwy) (Cymru) 2011.  Rwyf wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau i CCAUC sy’n esbonio sut y byddaf yn disgwyl i’r Cyngor weithio gyda’r sector addysg uwch i gytuno ar dargedau heriol o ran recriwtio, cadw a chyflawniad myfyrwyr o grwpiau tan anfantais, yn ogystal â sefydlu trefniadau monitro ac adrodd cadarn mewn pryd ar gyfer y rownd gyntaf o gynlluniau ffïoedd a gyflwynir ar gyfer blwyddyn academaidd 2012/13.  Bydd CCAUC yn monitro ac yn gorfodi’r targedau ar gyfer cynlluniau ffïoedd a bydd gan y Cyngor y grym i gymryd camau pendant os na fydd sefydliad yn ateb gofynion ei gynllun ffïoedd.

 

Rhaid i gynllun ffïoedd gynnwys manylion y terfyn nad aiff y ffi ar gyfer pob cwrs drosto (hyd at yr uchafswm o £9,000) a rhaid cyhoeddi’r cynlluniau cymeradwy i wneud yn siwr bod gwybodaeth am gostau cyrsiau unigol ar gael i ddarpar fyfyrwyr.  Gofynnir i CCAUC astudio’n fanwl iawn unrhyw fwriad gan sefydliad i godi ffi sy’n uwch na’r swm sylfaenol.

 

Bydd gan fyfyrwyr ddisgwyliadau uwch os codir ffïoedd uwch arnynt, a theg hynny.  Byddaf yn disgwyl gweld gwelliannau ym mhrofiad y myfyriwr.  Mae fy nghyfarwyddyd yn ei gwneud yn glir hefyd y dylid ymgynghori â chorff y myfyrwyr fel rhan o broses asesu’r cynllun ffïoedd.  Mae’n esbonio fy mod yn disgwyl i sefydliadau fynd ati’n egnïol i gydweithio â’u hundebau myfyrwyr wrth lunio cynlluniau ffïoedd ac y dylai CCAUC fonitro’r cysylltiad hwnnw.  Yn fy nghyfarwyddyd, rwy’n gofyn i CCAUC ymgynghori ag Undeb Myfyrwyr Cymru cyn pennu’r meini prawf ar gyfer y cynlluniau ffïoedd.  Mae CCAUC wedi cyhoeddi ei gyfarwyddiadau ei hun i sefydliadau ar sut i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau ffïoedd ar gyfer eu cymeradwyo.

 

Mae cyfarwyddiadau CCAUC yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gyflwyno’u cynlluniau ffïoedd i’r Cyngor erbyn 31 Mai.  Caiff y penderfyniad p’un ai i gymeradwyo’r cynlluniau neu beidio ei wneud erbyn 11 Gorffennaf.  Gall sefydliadau ofyn am adolygiad o benderfyniad CCAUC o dan rai amgylchiadau.  Mae fy swyddogion yn gwneud y trefniadau ar gyfer penodi panel i ddelio â cheisiadau o’r fath.