Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i ddiogelu aelwydydd incwm isel a rhai sydd mewn sefyllfa fregus yng Nghymru, drwy gynnal hawliadau llawn o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2018-19.  

Bydd y trefniadau o 2019-20 ymlaen yn cael eu pennu fel rhan o'r ystyriaethau ehangach i sicrhau bod y dreth gyngor yn decach.

Cafodd Budd-dal y Dreth Gyngor ei ddiddymu gan Lywodraeth y DU ar 31 Mawrth 2013. Ar yr un adeg, trosglwyddodd gyllid i Lywodraeth Cymru ar gyfer disodli'r budd-dal hwn â chynlluniau newydd. Roedd y cyllid a ddarparwyd wedi cael ei dorri o 10% a'i drosglwyddo i gyllidebau sefydlog, yn hytrach na rhai seiliedig ar alw.  

Er gwaetha'r diffyg yn y cyllid, mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol wedi gweithio gyda'i gilydd i gynnal hawliadau llawn ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor drwy fframwaith cenedlaethol sengl newydd. Mae'r fframwaith hwn yn seiliedig ar gymorth o £244m y flwyddyn ar gyfer awdurdodau lleol, fel rhan o'r setliad llywodraeth leol. Bydd y trefniadau hyn yn parhau ar gyfer 2018-19.  

Bydd y penderfyniad hwn yn golygu bod bron i 300,000 o aelwydydd incwm isel a rhai sydd mewn sefyllfa fregus yn cael eu hamddiffyn rhag cynnydd yn eu rhwymedigaeth treth gyngor. O'r rhain, ni fydd 220,000 ohonynt yn talu unrhyw dreth gyngor o hyd.  

Mae ein dull polisi yn gyferbyniad llwyr i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Mae awdurdodau lleol yno yn llunio eu cynlluniau eu hunain ac yn rheoli'r holl oblygiadau cyllido sy'n dod yn sgil y cynlluniau hynny. O ganlyniad, mae'r rhwymedigaeth treth gyngor yn amrywio o un awdurdod lleol i'r nesaf. Mae nifer mawr o wahanol gynlluniau ar waith ac mae mwy na dwy filiwn o aelwydydd incwm isel yn gorfod talu mwy o'u bil treth gyngor. Mae teuluoedd incwm isel yn Lloegr yn awr yn talu £191 y flwyddyn ar gyfartaledd yn fwy o dreth gyngor na pe byddai Budd-dal y Dreth Gyngor yn dal i gael ei gynnig.  

At hynny, bydd awdurdodau lleol Cymru yn dal i gael eu diogelu rhag y risgiau a'r costau a wynebir gan gynghorau yn Lloegr - sy'n gorfod casglu'r dreth gyngor gan aelwydydd sy'n wynebu caledi, yn ogystal â rheoli'r goblygiadau ariannol a chymdeithasol sydd ynghlwm wrth geisio symiau bach o ddyled.  

Rwy'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth barhaus gan awdurdodau lleol i gyflwyno'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a'r cymorth ariannol pwysig y mae'n ei ddarparu i aelwydydd cymwys. Rydym yn ymwybodol bod llawer o aelwydydd incwm isel yn ei chael hi'n anodd ymdopi ag effeithiau diwygiadau Llywodraeth y DU i’r system les ac rwyf i wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod camau pellach yn cael eu cymryd i liniaru'r canlyniadau ar gyfer y rheini sy'n cael eu heffeithio.