Neidio i'r prif gynnwy

Heledd Fychan AS, Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n datgan fy nghynlluniau i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru, er mwyn gwarchod a chryfhau platfformau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Mae hyn yn cyflawni ein hymrwymiad i gyhoeddi cynlluniau ac amserlen ar hyn yn ystod 100 diwrnod cyntaf y llywodraeth.

Gan gydnabod gwaith y Panel Arbenigol ar Ddarlledu, a mewnbwn arbenigwyr wrth ddatblygu ei argymhellion, rwy'n mynd ati i sefydlu'r Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru yn raddol. Fel cam cyntaf, yn unol ag argymhelliad y Panel Arbenigol, rwy'n sefydlu Gweithgor Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol.

Bydd y Gweithgor yn rhoi cyngor i mi ar sut y bwriedir i'r Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru weithredu. Mae hyn yn cynnwys cyngor ac argymhellion ar ei strwythur, ei statws, ei gylch gorchwyl, a'i weithgarwch ymchwil ac ymgysylltu.

Mae gwaith wedi dechrau i gyflwyno adnoddau a mecanweithiau mewnol i gefnogi'r Gweithgor, ac rwyf wedi neilltuo £45,000 o gyllideb Cymru Greadigol yn 2026-27 i ariannu gweithgarwch y flwyddyn ariannol hon. 

Bydd ymgyrch i recriwtio aelodau i'r Gweithgor yn cael ei lansio ym mis Medi. Rwy'n disgwyl i'r ymgyrch hon ddod i ben erbyn diwedd y flwyddyn galendr, a bwriedir i'r Gweithgor gynnal ei gyfarfod cyntaf ar ddechrau 2027. Cyhoeddir cylch gorchwyl ac enwau a bywgraffiadau'r aelodau ar wefan Llywodraeth Cymru.

Byddaf yn dilyn arweiniad yr aelodau arbenigol ar raglen waith y Gweithgor, ond rwy'n disgwyl cael argymhellion ar gynlluniau manwl ar gyfer sefydlu'r Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru ar ddechrau 2028. 

Ar ôl derbyn y cyngor hwnnw, byddaf yn gwneud datganiad ffurfiol yn ystod gwanwyn 2028 i gadarnhau'r trefniadau y byddaf wedi cytuno arnynt ar gyfer Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru yn y dyfodol.

Mae’r craffu cynnar yn dangos diddordeb yn ein hymrwymiad i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru. Nid yw'r cynlluniau hyn wedi'u datblygu ar eu pennau eu hunain. Maent yn seiliedig ar dystiolaeth nad yw fframwaith darlledu ledled y DU yn addas ar gyfer realiti'r gwledydd sy'n gweithredu ar sail ddatganoledig. Nid Llywodraeth Cymru yn unig sy'n codi ei llais. Rydym wedi clywed sefydliadau fel y Sefydliad Materion Cymreig a gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn galw am lais cryfach i Gymru ar faterion darlledu a chyfathrebu. Rydym yn gweithredu ar argymhellion panel arbenigol.

Dim ond atgyfnerthu'r angen i ddefnyddio pob opsiwn posibl i ddiogelu a gwella darlledu a chyfathrebu yng Nghymru y mae'r cyhoeddiadau diweddar. Cronfa Cyfryngau Lleol Llywodraeth y DU yw’r enghraifft ddiweddaraf o gynlluniau, sy'n ymwneud â ni ac y cytunwyd arnynt ar ein cyfer ni, nad oes gennym unrhyw ran yn eu llunio na’u gweithredu.

Bydd rhannu'r gwaith fesul cam yn rhoi ffordd ystyriol i sicrhau bod y camau a gymerwn yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn o angen, yn mynd i'r afael â bylchau yn y fframwaith presennol ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Llywir y gwaith hwn gan ymrwymiad i sicrhau bod ein cynlluniau yn ychwanegu gwerth, ac yn arwain at newid cadarnhaol a chanlyniadau gwell i Gymru. Rwy'n sicr y bydd unrhyw adnodd a roddir i Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru yn talu ar ei ganfed.

Y cynlluniau hyn yw'r cam cyntaf i bwyso am ddatganoli pwerau dros ddarlledu, i gryfhau cyfryngau Cymru ac i roi llais i Gymru mewn materion darlledu a chyfathrebu.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.