Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, hoffwn ddiweddaru’r Senedd o ran y cynnydd gyda’n cynlluniau i ostwng terfyn cyflymder ardaloedd 30 milltir yr awr i 20 mya.

Ym mis Tachwedd gwnaethom ariannu arolwg agwedd y cyhoedd cenedlaethol o 1000 o bobl sy'n byw yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn. 

Er bod y data yn dal i gael ei ddadansoddi mae'r canfyddiadau cychwynnol yn dangos cefnogaeth gref i gynllun Llywodraeth Cymru i leihau terfynau cyflymder mewn cymunedau preswyl i 20mya, yn enwedig ymhlith rhieni neu'r rhai sydd â phlant yn y cartref. 

Pan ofynnwyd iddynt beth hoffent i'r terfyn cyflymder fod ar eu stryd, awgrymodd 92% o'r rhai a ddywedodd eu bod yn hoffi gweld newid, derfyn cyflymder o 20mya neu'n is ac roedd 77% eisiau gweld y terfyn cyflymder hwn yn cael ei weithredu ledled yr ardal lle maen nhw'n byw. 

Roedd cytundeb uchel hefyd (72%) o’r angen i'r heddlu ei orfodi'n briodol er mwyn i'r terfyn 20mya weithio. 

Pan dderbyniais argymhellion y Tasglu 20mya roedd ymrwymiad i dreialu cyfyngiadau cyflymder 20mya mewn wyth anheddiad ledled Cymru. Bydd hyn yn caniatáu inni oresgyn unrhyw faterion annisgwyl cyn i ni fwrw ymlaen â'r broses gyflwyno genedlaethol ym mis Ebrill 2023. 

Roeddwn yn hynod falch o’r ymateb gan awdurdodau lleol i’n gwahoddiad i gymryd rhan yn y treialon. Mae deuddeg awdurdod lleol wedi cyflwyno ceisiadau ac yn dilyn ein hasesiad o'r ceisiadau hynny byddwn yn symud ymlaen gyda'r mentrau canlynol. 

Bydd wyth ardal beilot lle byddwn yn treialu 20mya ar ffyrdd cyfyngedig  - ffyrdd sydd â chyfyngiad 30mya ar hyn o bryd ac sydd â goleuadau stryd. Yr aneddiadau hyn yw:

  • Y Fenni, Sir Fynwy
  • Canol Gogledd Caerdydd
  • Glan Hafren, Sir Fynwy 
  • Bwcle, Sir y Fflint
  • Pentref Cil-ffriw, Castell-nedd Port Talbot
  • Llandudoch, Sir Benfro  
  • Sant-y-brid, Bro Morgannwg
  • Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin

Ochr yn ochr â'r peilotiaid hyn bydd gweddill Llanelli yn dod yn anheddiad monitro lle mae'r terfyn cyflymder yn aros yr un fath. Bydd hyn yn caniatáu inni ddal data tymor hir ar gydymffurfiaeth, anafusion a theithio egnïol, yn ogystal ag effeithiau economaidd, amgylcheddol ac iechyd, cyn ac ar ôl y newid yn y terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol i 20 mya. 

Bydd aneddiadau eraill yn Ynys Môn, Gwynedd, a Phowys, yn ogystal â rhai yn yr un siroedd â'r Cynlluniau Peilot a ddewiswyd, hefyd yn cael eu defnyddio i olrhain prosesau a rhoi adborth ar gyfathrebu a marchnata ymgynghori cyhoeddus. 

Gwneir yr holl derfynau cyflymder 20 mya newydd trwy Orchmynion Traffig newydd ac ymgynghorir â'r rhai yr effeithir arnynt gan ddefnyddio'r prosesau statudol. Yn amodol ar ganlyniad cadarnhaol o'r ymgynghoriad, bydd y peilotiaid yn cael cychwyn fesul cam, o haf 2021, tan ddiwedd y flwyddyn. 

Bydd yr Aneddiadau Peilot hefyd yn cael eu defnyddio er mwyn datblygu strategaeth gorfodi gyda’r heddlu a GanBwyll fel y bydd trefniadau gorfodi ar waith ar gyfer cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol 20 mya ledled Cymru ym mis Ebrill 2023.

Rydym wedi gwneud cynnydd o ran lleihau marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd dros yr 21 mlynedd o ddatganoli, ond er gwaethaf ein hymdrechion sylweddol, digwyddodd y gyfran uchaf o'r holl anafusion (50%) ar ffyrdd 30mya yn ystod 2018. Ni ellir goddef hyn, felly mae'n rhaid i ostyngiad i 20 mya ar ein ffyrdd preswyl a threfol eraill lle mae gweithgaredd prysur i gerddwyr fod y ffordd ymlaen. 

Mae gostwng cyflymderau yn lleihau damweiniau ac yn arbed bywydau, ac ochr yn ochr â hyn bydd ansawdd bywyd yn gwella, gan wneud lle ar ein strydoedd ar gyfer teithio llesol mwy diogel. Mae hyn yn helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol ac mae ganddo ganlyniad cadarnhaol i'n lles corfforol a meddyliol.  

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar ôl i’r Senedd ailymgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.