Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mai 2014, cyhoeddais ganllawiau statudol i awdurdodau lleol, yn pennu sut y dylent fynd i'r afael â'u Cynlluniau Trafnidaeth Lleol, un o'u dyletswyddau fel a amlinellir yn Neddf Trafnidiaeth 2000 (fel y'i diwygiwyd).  
O ganlyniad, ym mis Ionawr 2015, ac yn unol â Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014, mae naw o Gynlluniau Trafnidiaeth Lleol wedi'u cyflwyno imi i'w cymeradwyo.  Dyma'r rhai a gyflwynwyd:

  1. Pen-y-bont ar Ogwr
  2. Caerdydd
  3. Y Canolbarth (Ceredigion, Gwynedd (Meirionnydd), Powys)
  4. Sir Fynwy
  5. Casnewydd
  6. Gogledd Cymru (Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd (Arfon a Dwyfor), Sir y Fflint, Wrecsam)
  7. Cymoedd y De-ddwyrain (Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr, Rhondda Cynon Taf, Torfaen)
  8. Y de-orllewin (Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Abertawe)
  9. Bro Morgannwg

Yn unol â'r gofynion deddfwriaethol a bennir yn Neddf Trafnidiaeth (2000) fel y'i diwygiwyd, rwy'n fodlon bod y cynlluniau yn cynnwys polisïau i hyrwyddo ac annog trafnidiaeth ddiogel ac effeithiol.  Rwyf hefyd yn fodlon bod y cynlluniau yn cynnwys polisïau i weithredu Strategaeth Trafnidiaeth Cymru, ac rwyf wedi ystyried y canllawiau statudol.  

Am y rheswm hwn, rwy'n gallu cymeradwyo'r cynlluniau a gyflwynwyd imi.  Dylid nodi nad yw cymeradwyo'r cynlluniau yn golygu cymeradwy'r broses y mae'r awdurdodau lleol wedi'u dilyn, gan gynnwys cydymffurfio â'r dyletswyddau statudol sydd arnynt.