Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 30 Mehefin 2016 nodais fy mhenderfyniad mewn perthynas â chynlluniau tymor canolig integredig y GIG ar gyfer 2016 -19.

Yn dilyn proses graffu drylwyr ar gynlluniau tymor canolig integredig 2016-19, penderfynais gymeradwyo’r chwe sefydliad canlynol – Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chwm Taf; Bwrdd Iechyd Addysgu Powys; ac Ymddiriedolaethau’r GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, Felindre a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Nid oedd modd i mi gymeradwyo tri sefydliad arall – Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Betsi Cadwaladr a Hywel Dda.

Caniatawyd mwy o amser i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ddarparu gwybodaeth ychwanegol i mi ei hystyried. Yn dilyn asesiad pellach a chyngor gan swyddogion, rwyf wedi penderfynu peidio â chymeradwyo cynllun 3 blynedd ar hyn o bryd. Bydd gofyn i’r Bwrdd ddarparu cynllun gweithredol blwyddyn o hyd, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion weithio gyda’r bwrdd iechyd dros y misoedd nesaf i weld a oes modd iddynt wireddu’r uchelgais o gael cynllun 3 blynedd y mae modd ei gymeradwyo cyn diwedd mis Mawrth 2017.

Rwyf wedi gosod telerau atebolrwydd heriol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i weld gwelliannau cyflym drwy’r gwasanaeth iechyd, ac osgoi gweld unrhyw sefydliad yn eistedd yn ôl. Bydd perfformiad y sefydliadau hyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i’r Aelodau. Os yw’r Aelodau’n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny.