Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mewn hinsawdd lle mae’r cyllid cyhoeddus yn gostwng, mae’n anochel y bydd pwysau ar sector yr amgylchedd hanesyddol yn y dyfodol o ran adnoddau a gwydnwch.  Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried sut i ymateb i’r heriau hyn a hoffwn sicrhau y bydd swyddogaethau craidd y cyrff yn y sector sy’n cael eu hariannu drwy’r portffolio Tai, Adfywio a Threftadaeth yn cael eu llunio i weithredu mewn modd cydlynol a chynaliadwy. Gan hynny, rwyf wedi gofyn i’r Comisiwn Brenhinol gydweithio â Cadw a CyMAL yn 2012-13 i ystyried y ffordd orau i gyflawni hyn.

Rwyf wedi sefydlu gweithgor i greu proses y gellid ei defnyddio i uno swyddogaethau craidd y Comisiwn Brenhinol â sefydliadau eraill, gan gynnwys Cadw. Cafodd cyfarfod cyntaf y gweithgor ei gynnal ar 27 Ebrill.  Rwyf wedi gofyn i’r gweithgor gyflwyno adroddiad erbyn Gorffennaf 2012 ar ffordd ymlaen gytûn. Rwy’n disgwyl i’r gweithgor:

  •  sefydlu gweithgareddau a swyddogaethau allweddol y cyrff sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cyflawni ei chyfrifoldebau statudol a’i blaenoriaethau cyhoeddedig
  • nodi’r pwysau a fydd yn effeithio ar y gweithgareddau a’r swyddogaethau allweddol hyn o  ran yr anghenion, yr adnoddau a’r gwydnwch at y dyfodol
  • cynnig opsiynau bras i fynd i’r afael â’r pwysau hyn i minnau eu hystyried a datblygu ‘map llwybr’ i’w rhoi ar waith

Nid proses gysurus mo hon, ond rwy’n cymryd y camau hyn am fy mod o’r farn bod y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws sector yr amgylchedd hanesyddol yn bwysig ac oherwydd y gofid sydd gen i fod rhaid iddo fod mor gadarn ag y bo modd er mwyn gwrthsefyll yr hyn sy’n mynd i fod yn gyfnod estynedig o leihau cyllidebau. Y bwriad sydd gen i yw sicrhau bod y cyllidebau’n cael eu targedu ar y meysydd sydd â’r flaenoriaeth uchaf.

Rwy’n ymwybodol iawn y gall unrhyw newid sefydliadol mawr sydd yn yr arfaeth beri gofid i staff y sefydliad o dan sylw.  Rwyf wedi cyfarwyddo’r gweithgor i sicrhau bod staff Cadw a staff y Comisiwn yn cael gwybodaeth gyson am hynt y gweithgor. Ar ben hynny, mae cynllun cyfathrebu staff yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod pawb yn cael gwybodaeth ac yn cael eu cynnwys wrth i’r broses barhau.  Rhoddir gwybod yn gyson am y datblygiadau i Aelodau’r Cynulliad ac i randdeiliaid y sector.