Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth inni gyrraedd tymor yr haf, rydym yn gweld lefelau is o feirysau anadlol yn cylchredeg yn y gymuned ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Gwyddom, fodd bynnag, ein bod yn debygol o weld ymchwydd o achosion yn ystod yr hydref a’r gaeaf ac rydym yn ystyried pa fesurau sydd eu hangen i’n helpu i baratoi ar gyfer hyn a llacio’r pwysau sy’n debygol o fod ar leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Roedd gaeaf 2022/23 yn gyfnod arbennig o heriol ar gyfer y gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng ar draws y DU. Rydym wedi cynnal dadansoddiad manwl o gyfnod diwedd yr hydref a’r gaeaf mewn cydweithrediad ag arweinwyr Cydweithrediaeth y GIG, a Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG. Rydym yn defnyddio’r canfyddiadau i lunio cynlluniau ar gyfer pwysau tymhorol drwy gydol gweddill y flwyddyn galendr hon ac i mewn i dymor y gaeaf 2023/2024. Ein bwriad yw galluogi’r system i ddarparu gwasanaethau mwy gwydn a rheoli brigiadau yn y galw yn well y gaeaf hwn, yn enwedig ar gyfer y carfannau o gleifion sy’n wynebu risg uwch.

Mae rhaglenni cenedlaethol yn datblygu neu’n cyflawni ymyriadau i gefnogi pobl sy’n byw gydag eiddilwch, pobl hŷn, plant a phobl sy’n wynebu risg uwch o ganlyniad i salwch anadlol, gyda’r bwriad o ymdrin â mwy o bobl yn y gymuned os yw’n ddiogel i wneud hynny a sicrhau bod llwybrau cadarn ar waith i ddiwallu anghenion yr unigolyn.

Yn ystod gaeaf y llynedd, cydweithiodd awdurdodau lleol a phartneriaid y GIG i ddarparu 670 yn ychwanegol o welyau cam i lawr a phecynnau cymunedol. Rydym eisiau adeiladu ar y dull partneriaeth hwn drwy ein gwaith ar Ymhellach, yn Gyflymach. Bydd y rhaglen ‘Gwella Capasiti drwy Ofal Cymunedol – Ymhellach, yn Gyflymach’ gwerth £30m a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn targedu ymyriadau sydd i’w cyflawni eleni i gefnogi gwell canlyniadau i bobl sy’n byw gydag eiddilwch. Mae hyn yn cynnwys recriwtio mwy o weithwyr iechyd a gofal cymunedol, buddsoddi mewn Gofal a Alluogir gan Dechnoleg, gwella argaeledd nyrsys cymunedol ar draws Cymru a chryfhau gofal lliniarol arbenigol yn y gymuned.

Bydd y pethau allweddol i’w cyflawni a ddisgrifiwyd yn y cynllun rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng hefyd yn parhau i gael eu cefnogi gan £25m o gyllid Llywodraeth Cymru, yn ogystal â:

  • Datblygu fframwaith newydd ar gyfer uwchgyfeirio pwysau mewn argyfwng i gefnogi rheoli pwysau’n fwy rhagweithiol ar draws y system;
  • Cynllunio dangosfwrdd gweithredol newydd ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng i alluogi cael mwy o drosolwg o’r pwysau ar y system;
  • Parhau i hyrwyddo’r ystod o wasanaethau GIG sydd ar gael i alluogi pobl i gael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf;
  • Parhau i ddatblygu a chyflenwi’r ystod o wasanaethau clinigol a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol i alluogi cael gwell mynediad at wasanaethau’r GIG, sydd am ddim pryd bynnag a lle bynnag y mae pobl eu hangen.

Rydym hefyd yn asesu’r mesurau ehangach a ddefnyddiwyd gennym yn ystod gaeaf y llynedd i ymateb i feirysau anadlol a sicrhau ein bod yn dysgu gwersi cyn y gaeaf nesaf os yw hynny’n briodol. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys gwyliadwriaeth, brechu, negeseuon iechyd y cyhoedd allweddol, canllawiau ar gyfer lleoliadau allweddol fel addysg, profion, triniaeth gwrthfeirol a’n strategaeth gyfathrebu.

Er ein bod wedi symud y tu hwnt i’r cam ymateb brys i bandemig COVID-19, mae’n bwysig nodi nad yw’r feirws wedi diflannu. Rydym yn parhau i fonitro cyfraddau achosion a data iechyd y cyhoedd eraill fel y gallwn ailgyflwyno unrhyw fesurau diogelu pellach os oes angen. Rydym hefyd yn cynllunio ar gyfer cynnydd posibl mewn feirysau anadlol eraill gan gynnwys y ffliw ac RSV, yn ogystal â COVID-19, a gall brigiadau’r feirysau hyn ddigwydd ar yr un pryd. Byddwn yn gweithio ar fodelu senarios posibl ar gyfer y gaeaf hwn ac yn parhau i ddefnyddio ein systemau gwyliadwriaeth i gynorthwyo gyda chynllunio i leihau’r pwysau ychwanegol ar y system iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y cyfnodau hyn.