Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sichrau darpariaeth fanwerthu a masnachol hygyrch, effeithiol a chystadleuol ar gyfer pob cymuned yng Nghymru, ac i adfywio ein canol trefi presennol trwy amrywiol fentrau adfywio.  

Mae'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn gyfrifol, drwy'r agenda Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a'r Ymgyrch Cefnogwch eich Stryd Fawr, am weithredu uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i helpu i adfywio canol ein trefi.  

Fodd bynnag, rwy'n cydnabod, drwy fy nghyfrifoldebau fy hun, bod y system gynllunio yn arf allweddol o ran cefnogi a chreu canol trefi llwyddiannus.  

Mae ein polisïau cynllunio cenedlaethol ar gyfer manwerthu yn hyrwyddo canolfannau manwerthu sefydledig Cymru fel y lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer datblygiadau manwerthu newydd, sy'n cael eu hadlewyrchu ym Mholisi Cynllunio Cymru.  

Rwyf wedi cyflwyno'r Bil Cynllunio (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddiweddar.  Nod y bil hwn, a'm hagenda cynllunio positif ehangach, yw i fynd i'r afael â strwythurau a gweithdrefnau cyflewni, symleiddio'r system gynllunio a chefnogi newid mewn diwylliant fel bod cynllunio yn fodd o sicrhau datblygiadau o safon mewn lleoliadau priodol.  

Ym mis Ionawr, cyhoeddais ganllaw arfer gorau ar Orchmynion Datblygu Lleol sy'n galluogi awdurdodau cynllunio lleol i ddynodi ardaloedd, gan gynnwys canolfannau manwerthu, sydd â threfn gynllunio symlach, a ble na fyddai angen ceisiadau newid defnydd, er enghraifft, bellach.  

Rwyf hefyd yn edrych ar ffyrdd o wella defnydd penodol rhai adeiladau, gan gynnwys eiddo manwerthu, a'r rheolau cynllunio presennol sy'n newid rhain.  Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion gomisiynu gwaith ymchwil ar y mater "Dosbarthiadau Defnydd",ac yn benodol, i edrych ar newidiadau posib i ddosbarthiadau defnydd canol trefi.  Bydd hyn yn llywio is-ddeddfwriaeth maes o law.  

Fy mwriad hefyd yw cyflwyno rheolau ar ddefnyddio lloriau mesanîn newydd mewn datblygiadau manwerthu, dull sydd wedi'i ddefnyddio gan fanwerthwyr ar gyerion y dref i gynyddu maint eu siopau yn sylweddol, heb fod angen caniatâd cynllunio.  Byddaf yn ymgynghori ar natur benodol y rheolau hyn maes o law.    

Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r angen i adolygu ac adnewyddu polisïau a chyngor ar gynllunio manwerthu.  

Yn gynharach eleni, cyhoeddais waith ymchwil a oedd yn edrych ar effaith ein polisïau cynllunio presennol ar ganol trefi.  Un o'r prif ganfyddiadau oedd twf a chwmpas y dulliau amgen o fanwerthu, gan gynnwys siopa ar gyrion y dref ac ar-lein, a'u heffaith ar ganol trefi.  Ymysg yr argymhellion oedd yr angen am fwy o eglurder mewn canllawiau cynllunio manwerthu.  

O ystyried hyn, rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i swyddogion ddechrau adnewyddu Polisi Cynllunio Cymru a TAN 4, ar fanwerthu a chanol trefi, i sicrhau eu bod wedi'u diweddaru ac i ystyried anghenion a gofynion canolfannau tref a manwerthu y 21ain ganrif, sy'n newid eu cymeriad wrth i dueddiadau siopa ddatblygu.  

Rydym yn defnyddio pob dull sydd ar gael inni, i sicrhau bod gennym y ddeddfwriaeth, y polisïau a'r canllawiau diweddaraf, i gefnogi ac i adfywio canol ein trefi.