Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ein dealltwriaeth ddiweddaraf o gyfradd drosglwyddo COVID-19 yn caniatáu inni fod yn obeithiol ond mae dal gofyn i ni fod yn ofalus. Nod y datganiad hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y gwaith sy'n cael ei wneud er mwyn cynllunio ar gyfer y cam nesaf i ysgolion.

Bydd darpariaeth ysgolion yn addasu ac yn ymestyn ymhellach yn y cam nesaf, yn unol â newidiadau amserol Llywodraeth Cymru i'r cyfyngiadau cyfredol. Wrth gynllunio ar gyfer y cam nesaf ar gyfer ysgolion, mae set o egwyddorion allweddol ar gyfer gwneud penderfyniadau:

1. Diogelwch, a lles meddyliol, emosiynol a chorfforol myfyrwyr a staff

2. Cyfraniad parhaus i'r ymdrech a’r strategaeth genedlaethol i frwydro yn erbyn lledaeniad COVID-19

3. Hyder rhieni, staff a myfyrwyr - yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth - fel y gallant gynllunio ymlaen llaw

4. Y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd difreintiedig

5. Cysondeb â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau, i sefydlu arweiniad i gefnogi mesurau fel pellhau, rheoli presenoldeb a chamau amddiffyn ehangach

Mae'n bwysig cofio bod llawer o ysgolion ar agor - yn darparu gwasanaeth hanfodol i blant gweithwyr hanfodol a'n dysgwyr mwyaf agored i niwed. Felly nid wyf am gyfeirio at ‘ailagor’ neu ‘ddychwelyd’, rydym yn cynllunio ar gyfer ‘normal newydd’.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog fframwaith gyda saith cwestiwn allweddol i helpu i arwain Cymru allan o bandemig y coronafeirws a bydd galluogi ysgolion i weithredu yn cael ei ystyried yn y cyd-destun ehangach hwn.

Mae'n hanfodol bod gan rieni, staff a myfyrwyr hyder i ddychwelyd i'w lleoliad. Dim ond pan fydd y dystiolaeth a'r cyngor yn dweud mai dyma'r peth iawn i'w wneud y byddwn yn symud tuag at y cam nesaf i ysgolion.

Yn y cyfnod nesaf, ni fydd ysgolion yn dychwelyd ar unwaith i weithredu i’w capasiti llawn. Bydd yn broses raddol. Mae hyn yn golygu nad wyf yn disgwyl y bydd ysgolion ar agor i bob disgybl, o bob blwyddyn, trwy'r wythnos.

Mae her barhaus COVID-19 yn golygu y byddwn yn paratoi ysgolion ar gyfer ystod eang o senarios hyd y gellir rhagweld. Pa mor annhebygol bynnag y bo, mae'n rhaid i ni baratoi ar gyfer sefyllfa sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion leihau eu gweithredu ar adegau penodol yn y dyfodol.

Mae gennym sail dystiolaeth eang i’n llywio o ran ein penderfyniadau, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r dystiolaeth honno. Mae hyn yn tynnu ar y dystiolaeth iechyd ddiweddaraf, profiadau rhyngwladol ehangach, dealltwriaeth o allu cyfredol y gweithlu a’r effeithiau iechyd a lles ar yr holl staff a phlant mewn ysgolion. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda chymheiriaid o bob rhan o lywodraethau'r DU, a gyda chydweithwyr ar draws ein sector addysg (gan gynnwys addysg bellach ac uwch) ar y materion hyn.

Byddaf yn cyfleu unrhyw benderfyniadau i newid sefyllfa ysgolion ymhell cyn unrhyw gamau gofynnol. Bydd y Llywodraeth yn darparu arweiniad pellach i helpu gyda'r newid i'r amodau dros dro y bydd eu hangen ar ysgolion yn ystod yr amser hwnnw.

Hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod ysgolion a hybiau'n gallu darparu cefnogaeth i'r rhai sydd ei hangen. Fel y dywedais o'r blaen, mae ein hathrawon, ein staff cymorth a’n gweithwyr gofal plant wedi profi eu bod yn arwyr cenedlaethol.